Mae’r bardd 21 oed o Landrindod ym Mhowys newydd gael gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg a gwaith yn ymchwilio i raglenni cerddoriaeth Radio Cymru.
Hefyd mae’n rhan o griw Kathod wnaeth ryddhau’r sengl ‘O Hedyn Bach’ yn ddiweddar…
Sut ddaethoch chi yn rhan o broject Kathod?
Roeddwn i wedi sgwennu erthygl i zîn Merched Yn Gwneud Miwsig, a ges i gynnig gan griw Kathod [sy’n hybu cydweithio rhwng merched cerddorol creadigol] i sgrifennu darn o farddoniaeth ar gyfer y sengl ‘Gwenyn’, a wnes i ddiweddu fyny yn canu ar y trac hefyd.
Faint o ganu oeddech chi wedi gwneud cyn ymuno efo’r Kathod?
Mae gen i radd wyth mewn canu, a fy hoff ganeuon i’w canu oedd rhai’r Sioeau Cerdd, am eu bod nhw mor ddramatig.
Rydw i’n rili mwynhau canu ‘Defying Gravity’ o’r sioe Wicked, a ‘Popular’ – dyna wnes i ganu yn fy arholiad gradd wyth.
Ond dw i ddim yn berson cerddorol iawn – jesd wedi meithrin yr ochr lleisiol ohono fo ers bo fi’n ifanc.
Pam astudio’r Gymraeg yn y brifysgol?
Roedd gen i wastad y diddordeb yma yn y Gymraeg fel pwnc.
Yn ardal Llandrindod does yna neb byth rili yn siarad Cymraeg, does yna ddim gymaint o ymwybyddiaeth o ddiwylliant Cymraeg.
Ond roedd Dad wastad yn mynd â fi i steddfod a gigs a stwff, achos mae o massively mewn i’w gerddoriaeth.
Felly wnes i bigo fo fyny fel rhywbeth rili cool, ychydig bach yn wahanol.
Mae Dad efo tudalen Youtube – Y Dysgwr Araf – ac mae o fel archif cerddorol.
Felly dw i wedi pigo’r diddordeb mewn cerddoriaeth a diwylliant Cymraeg fyny ganddo fo.
Ers faint ydych chi’n sgrifennu am gerddoriaeth Gymraeg?
Wnes i gychwyn yn 2020 ar adeg pan doedd merched ddim yn cael eu cynnwys o fewn y Sîn Gerddoriaeth Gymraeg a ddim yn cael gymaint o welededd, a wnaeth hynny wylltio fi.
Felly wnes i jesd sgwennu meddyliau fi ar y pwnc, a’i yrru fo i blog Sôn am Sîn.
Ac ers hynna, dw i wedi bod yn cynnig sgwennu [erthyglau], ac yn fwy diweddar mae pobol wedi bod yn dod ata fi.
Pam ydych chi’n sgrifennu barddoniaeth?
Roedd yna wastad ofyn arna ni i sgwennu cerddi i’w gyrru fewn i’r steddfod yn Ysgol Uwchradd Llanfair-ym-Muallt, a dw i’n cofio sgwennu cerdd a dod yn ail [drwy Gymru] yn yr Urdd ym mlwyddyn naw.
Wedyn wnaeth hwnna sbarduno rhywbeth, a wnes i ganolbwyntio mwy arno fo yn fwy serious.
A blwyddyn yma, a’r llynedd, ges i drydydd [yng nghystadleuaeth] y Gadair [yn yr Urdd].
Pam aethoch chi i Fangor i astudio?
Roeddwn i yn benderfynol o fynd i Aber i astudio Cymraeg, a wnaeth mam ddweud: ‘Mae yn rhaid i ti fynd i weld o leiaf un brifysgol arall’.
O’r cychwyn cyntaf roeddwn i wedi completely gwirioni efo Bangor.
Roeddwn i wrth fy modd efo pa mor Gymraeg oedd bob dim, yn mynd o un pegwn i’r llall, yn mynd o Landrindod i Fangor.
Ac roeddwn i yn meddwl: ‘Os ydw i yn astudio’r Gymraeg fel pwnc, rydw i angen cael fy nhrochi yn yr iaith’.
Ac mae hynny wedi cyfoethogi fy sgiliau ieithyddol gymaint, a dw i ddim yn siwr os fyswn i wedi gallu cyflawni cymaint, heb fod yn rhywle fel Bangor.
Be’n union yw eich gwaith gyda Radio Cymru?
Ar hyn o bryd dw i’n gweithio ar raglen Dros Ginio ac hefyd yn ymchwilio i raglenni [cerddoriaeth] Georgia Ruth, Lisa Gwilym a Huw Stephens.
Sut steddfod gawsoch chi yn Nhregaron?
Fues i’n cynnal sgwrs ‘Cylch Sgwennu Caneuon’ yng Nghaffi Maes B gyda Gwyn Rosser [canwr Los Blancos], Sywel Nyw/Lewys Wyn a Mabli Gwyn, gyda’r tri yn dewis cân wreiddiol i’w thrafod a’i pherfformio, ac un cyfyr.
Wnes i wir fwynhau eu holi nhw am eu dylanwadau… mor ddifyr clywed sut maen nhw yn mynd ati i greu cerddoriaeth a ballu.
Beth yw eich atgof cynta’?
Bod yn Ffrainc yn dilyn gwahanol gymalau’r Tour de France, achos bod Dad yn licio seiclo, pan oeddwn i ryw dair neu bedair oed.
Ac roedd y tywydd mor boeth, roedd pobol yn marw.
Beth yw eich ofn mwya’?
Sbeidars.
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Dw i’n licio mynydda.
Es i fyny’r Wyddfa yn ddiweddar, am y tro cyntaf erioed, i wylio machlud yr haul ar Heuldro’r Haf, ac roedd o’n brofiad amazing.
Beth sy’n eich gwylltio?
Pobol sy’n sillafu enw fi’n rong.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Fyswn i yn lyfio cael eisdedd lawr a holi Gwerful Mechain [bardd 1460-1502] am sut oedd bywyd tra’r oedd hi yn cyfansoddi barddoniaeth.
A hefyd dangos faint o effaith mae hi wedi cael arna fi yn barddoni, achos wnes i ran o fy nhraethawd hir ar ei gwaith hi.
A ges i fy synnu efo pa mor cool oedd cael merch yn yr oes yna yn sôn am bethau mor tabŵ y bysa pobol yn yr oes yma hyd yn oed dal ddim yn meddwl bod o’n ddigon gweddus.
Lasania cartref i’w fwyta.
Gan bwy gawsoch chi sws gorau eich bywyd?
Cariad fi, Osian. Wnaethon ni gyfarfod mewn afters – diodydd ar ôl bod allan – yn [Neuadd] JM-J.
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
Mae fy nghariad i yn dweud ‘ai’ trwy’r amser, achos ei fod o Fangor, a dw i wedi dechrau pigo fo fyny.
Parti gorau i chi fod ynddo?
Tafwyl blwyddyn yma. Roedd y tywydd mor uffernol, roedd pawb jesd yn socian.
A wnaeth o wneud i bawb beidio malio, a rhyddhau ni i gael yr amser gorau. Ac roedd o’n un o’r aduniadau cyntaf lle’r oedd pawb yn dod yn ôl at ei gilydd [ar ôl Covid].
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Dw i’n gorfeddwl lot a tydi brên fi ddim yn sdopio… wna i boeni am bopeth o newid hinsawdd yn difetha’r byd, i be’ i wisgo i’r gwaith.
Hoff ddiod feddwol?
Unrhyw lager oer heblaw Carling.
Beth yw’r llyfrau difyrraf i chi eu darllen?
Un dw i yn argymell ydy tu ôl i’r awyr gan Megan Angharad Hunter.
Llyfr anhygoel y gwnes i wirioneddol fwynhau.
Rhannwch gyfrinach efo ni…
Pan oeddwn i yn 16 roeddwn i yn arfer gweithio i S4C yn ystod y Sioe [Frenhinol] ac roeddwn i wastad yn gwisog fyny fatha Sali Mali i ddawnsio yn y sioe Cyw.