Bydd cyfarfod agored yn cael ei gynnal nos Iau (Mawrth 16) er mwyn datgelu mwy am waith yr Eisteddfod Genedlaethol wrth baratoi i ymweld â Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf.

Bydd y cyfarfod ym Mloc B, Prifysgol De Cymru, Trefforest am 7 o’r gloch, ac mae croeso cynnes i bawb, meddai’r Eisteddfod.

Hwn fydd y cyfle cyntaf i glywed am y pwyllgorau a fydd yn tynnu’r Rhestr Testunau ynghyd cyn cychwyn ar y gwaith o gydweithio gyda’r tîm i greu’r rhaglenni artistig ar gyfer wythnos yr Eisteddfod ei hun.

Bydd cyfle hefyd i glywed mwy am y gwaith codi ymwybyddiaeth, arian a threfnu digwyddiadau lleol yn yr ardal ac i ymuno â’r tîm fydd yn arwain ar y gwaith yma.

“Yn dilyn ein lansiad diweddar, rydyn ni i gyd yn barod i gychwyn ar y gwaith o baratoi ar gyfer yr Eisteddfod,” meddai Helen Prosser, cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod.

“Gobeithio bod pawb wedi cael blas ar beth yw’r Eisteddfod, ac yn gweld ein bod ni am i’n gŵyl ni a’r gwaith paratoadol i fod yn gyfle i bawb ddod at ei gilydd i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant mewn ffordd sy’n gynnes, cynhwysol a chyfeillgar.

“Rydyn ni wedi disgwyl yn hir am y cyfle i drefnu Eisteddfod Genedlaethol yma yn Rhondda Cynon Taf, felly rydw i’n annog pawb i ddod draw ac ymuno gyda’r tîm ar gyfer 2024.

“Rydyn ni eisiau clywed gan bawb, yn siaradwyr Cymraeg hyderus, y rheini sydd wedi colli cysylltiad â’n hiaith ers dyddiau ysgol a’r rheini sydd heb fynd ati i ddysgu Cymraeg.

“Mae’r Eisteddfod, ein hiaith a’n diwylliant ni yn perthyn i ni i gyd, ac rydyn ni am i bawb gael llais yn nhrefnu ein Eisteddfod ni yma yn Rhondda Cynon Taf.”

Bydd y pwyllgorau sy’n gweithio ar y Rhestr Testunau’n cyfarfod eto ddydd Sadwrn (Mawrth 18) am 10.30yb ym Mhrifysgol De Cymru, a bydd y pwyllgorau codi ymwybyddiaeth yn cyfarfod yn fuan iawn hefyd.

Teyrngedau i John Gruffydd Jones

Yn y cyfamser, mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r llenor John Gruffydd Jones, enillydd nifer o brif wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol.

Enilodd y Fedal Ryddiaith ym Machynlleth yn 1981, Tlws y Ddrama yn Abergwaun yn 1986, a’r Goron ym Mhorthmadog yn 1987.

Ond enillodd nifer o gystadlaethau eraill yr Eisteddfod hefyd, gan gynnwys y delyneg, y fonolog, y soned a’r stori fer, a bu’n cystadlu’n frwd tan y blynyddoedd diwethaf.

Bu’n olygydd Y Goleuad, cylchgrawn y Methodistiaid Calfinaidd, am ddegawd rhwng 2000 a 2010, ddwy flynedd cyn iddo ennill gradd MA Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Cymru dan gyfarwyddyd yr Athro Angharad Price.

Cyhoeddodd nofel, Dawns Ganol Dydd, a chasgliad o gerddi Ai Breuddwydion Bardd Ydynt? ac roedd yn golofnydd ym mhapur bro Y Glannau.

Mae’n gadael merch, Delyth Marian, a mab, Dafydd Llewelyn, a thair wyres.

“Roedd John Gruffydd Jones yn lenor, bardd a dramodydd heb ei ail,” meddai llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Nid ar chwarae bach mae llwyddo i ennill y Fedal Ddrama, y Fedal Ryddiaith a’r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn ystod y 1980au, John Gruffydd Jones oedd yr un i’w guro yng nghystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod.

“Roedd bob amser yn barod ei gefnogaeth i’r Eisteddfod, lle bynnag oedd yr wyl yng Nghymru.

“Gyda’i wreiddiau’n ddwfn yn nalgylch y Brifwyl eleni, a’i Goron wedi’i hennill ym Mro Madog yn 1987, fe fyddwn yn meddwl yn annwyl iawn amdano, ei deulu a’i gyfeillion yn ystod yr Eisteddfod yn Llŷn ac Eifionydd ym mis Awst.

“Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at y teulu heddiw.”

“Newyddion trist iawn,” meddai Meirion MacIntyre Huws.

“Dyma’r dyn a roddodd i mi fy nghadair eisteddfod gyntaf erioed.

“Coffa da ac annwyl amdano.”