Mae Plaid Cymru wedi beirniadu Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig am amddifadu Cymru o £5bn mewn arian ar gyfer y rheilffyrdd, a’r Blaid Lafur am wrthod ymrwymo i ddatrys y sefyllfa.
Dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, y byddai Cymru wedi derbyn £1bn eisoes pe bai’n derbyn arian o ganlyniad i Fformiwla Barnett ar gyfer prosiect ‘Lloegr-yn-unig’ HS2, fel sy’n digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae hi’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ryddhau’r £1bn fory (dydd Mercher, Mawrth 15) wrth i’r Canghellor Jeremy Hunt gyhoeddi ei Gyllideb, ac i ymrwymo i roi’r £5bn mae hawl gan Gymru i’w dderbyn yn ystod hyd oes y prosiect.
Daw ei sylwadau wrth i Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, godi llais yn y Senedd drwy feirniadu Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, am wrthod ymrwymo i wyrdroi penderfyniad y Ceidwadwyr pe bai’n dod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi cefnogi galwadau Cymru ar i’r prosiect rheilffyrdd gael ei ailddosbarthu’n brosiect ‘Lloegr-yn-unig, ond mae Syr Keir Starmer yn gwrthod cefnogi ei gyd-Lafurwr, gan ddweud wrth WalesOnline yr wythnos ddiwethaf na fydd e’n “ymrwymo fel hynny yr ochr yma i’r etholiad”.
‘Fydd yr un modfedd o gledrau HS2 yn cael ei osod yng Nghymru’
“Daw’r Gweinidog [Huw Merriman] i’r Siambr yn methu manylu ar fanteision HS2 i ogledd na de Cymru,” meddai Liz Saville Roberts.
“Fydd yr un modfedd o drac HS2 yn cael ei osod yng Nghymru, ond eto mae’n cael ei ystyried yn brosiect ‘Cymru-a-Lloegr’.
“Mae hyn yn amddifadu Cymru rhag cael buddsoddiad yn ôl.
“Dylai’r £20bn gafodd ei wario eisoes ar yr eliffant gwyn mwyaf yn y syrcas Dorïaidd fod wedi arwain at fuddsoddiad o £1bn yn rheilffyrdd ffaeledig Cymru.
“A fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, felly, yn sicrhau bod Cymru’n derbyn y £1bn hwnnw nawr a’r £5bn sy’n ddyledus i ni dros hyd oes y prosiect?”
Wrth ymateb, dywedodd Huw Merriman ei fod yn cynrychioli “pobol dda Dwyrain Sussex, a does yna’r un modfedd o gledrau yn cael ei osod yn Nwyrain Sussex chwaith”.
‘Amddifadu Cymru’
Yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog yn y Senedd, gofynnodd Adam Price i’r Prif Weinidog a fyddai gweinyddiaeth Lafur yn y dyfodol yn gwyrdroi penderfyniad y Ceidwadwyr.
Ategodd Mark Drakeford ei safbwynt y dylid ailddosbarthu HS2 fel prosiect ‘Lloegr-yn-unig’, ond wnaeth e ddim cadarnhau beth fyddai safbwynt Llywodraeth Lafur yn San Steffan yn y dyfodol.
“Dydy Llafur y Deyrnas Unedig na Keir Starmer ddim wedi ymrwymo i ailddosbarthu HS2 fel prosiect ‘Lloegr-yn-unig’, gan ddwyn £5bn oddi ar Gymru allai drawsnewid ein hisadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus sy’n chwalu,” meddai Adam Price ar ôl sesiwn holi’r Prif Weinidog.
“Mae angen i Lafur yng Nghymru fod yn onest ynghylch y ffaith y bydd Cymru’n parhau i gael ein hamddiffadu o’n cyfran deg, hyd yn oed pe bai gweinyddiaeth Lafur yn San Steffan.
“Mae hyn yn rhan o batrwm ehangach sy’n codi.
“O dan Lafur Starmer, dydy Cymru ddim yn mynd i fod yn well ei byd pan ddaw i drafnidiaeth a buddsoddi mewn isadeiledd nac yn nhermau cael mwy o bwerau i’n galluogi ni i benderfynu ar ein tynged ein hunain.
“Mae’r ffaith fod Llywodraeth Lafur Cymru’n gwrthod ymrwymo i alw ar weinyddiaeth Lafur y dyfodol i gywiro’r penderfyniad gwarthus hwnnw’n siomedig a dweud y lleiaf.”