Gwlân, ac nid plastig, sydd wedi bod yn cael ei ddefnyddio i greu sylfeini llwybrau cyhoeddus ar Ynys Môn.

Hyd yn hyn, mae gwlân wedi cael ei dreialu mewn dwy ardal ar yr ynys, a gwirfoddolwyr wedi bod yn ei osod wrth drwsio llwybrau ger Castell Aberlleiniog a Rhos Llaniestyn yn Llanddona.

Caiff y cnu ei osod yn y llwybrau yn lle’r deunydd synthetig sy’n cael ei ddefnyddio fel arfer, ac mae’r gwlân ar gyfer y prosiect wedi dod o Fetws y Coed.

Menter Môn sy’n gyfrifol am y cynllun newydd, ac mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ynys Môn, mae’r gwlân wedi cael ei ddefnyddio mewn ardaloedd gwlyb i drwsio’r llwybrau.

‘Pris tecach i ffermwyr’

Mae’r cynllun yn rhan o brosiect Gwnaed â Gwlân, a dywed rheolwr y prosiect mai’r nod yw datblygu “ffyrdd newydd cynaliadwy o ddefnyddio gwlân er mwyn sicrhau pris tecach i ffermwyr”.

“Mae’r prosiect penodol hwn yn rhan o’n hymdrechion i gyflawni hyn, yn ogystal â gwella ein hamgylchedd a lleihau ein heffaith ar ein hamgylchedd,” meddai Elen Parry.

“Ar ddiwedd y prosiect, byddwn yn llunio canllaw ar sut i adeiladu’r llwybrau yn y gobaith y gall grwpiau eraill ddefnyddio’r wybodaeth a dysgu o’n profiadau ni.”

Elen Parry, Rheolwr Prosiect Gwnaed â Gwlân, gyda chynrychiolwyr o Gyngor Sir Ynys Môn

Mae gwlân tua 700 o ddefaid wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer y cynllun drwy brosiect Gwlân Prydain, sy’n sicrhau bod ffermwyr yn cael pris uwch am eu cynnyrch.

Bydd y tîm yn ailymweld â’r llwybrau yn yr hydref er mwyn asesu sut maen nhw wedi dygymod dros fisoedd yr haf, ac i ychwanegu mwy o wlân lle bo angen.

Noson yn dathlu chwedlau cymunedau gwledig a’r diwydiant gwlân

Lowri Larsen

“Mae pob cymuned ym Meirionnydd ac yng Nghymru efo chwedlau penodol”