Bydd 500 o swyddi’n cael eu diogelu a chant newydd yn cael eu creu yn sgil datblygiad newydd ym Mhort Talbot.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n gwerthu safle 30 erw ar Ystâd Ddiwydiannol Baglan i Glass Systems Limited.
Ar hyn o bryd, mae gan y busnes chwe safle dros y Deyrnas Unedig, ac mae’r cwmni gweithgynhyrchu yn darparu 100,000 o unedau gwydr i farchnad ffenestri’r Deyrnas Unedig bob wythnos.
Bydd y datblygiad newydd, sydd wedi’i leoli yn Ardal Fenter Port Talbot, yn elwa ar gymorth busnes Llywodraeth Cymru, gan eu galluogi i fuddsoddi mewn peiriannau, offer ac ehangu safleoedd.
‘Swyddi parhaol yn yr ardal’
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Glass Systems Limited, Khaled Elleboudy, bod y datblygiad yn allweddol i ddyfodol y cwmni ac y bydd y ffatri’n gweithio ochr yn ochr â’u ffatrïoedd yn Lloegr a’r Alban.
“Bydd y ffatri uwch-dechnoleg hon yn chwarae rhan allweddol wrth ein helpu i fuddsoddi’n barhaus mewn technolegau a phrosesau cynaliadwy newydd ac yn ein helpu i gyrraedd ein nod o leihau ein hallyriadau CO2, lleihau gwastraff, ac arbed ynni,” meddai.
“Bydd y cyfleuster modern a’r gofod ffatri agored yn ein galluogi i gynllunio a defnyddio ein technoleg newydd a’n hoffer o’r radd flaenaf ynghyd â sicrhau’r cynhyrchiant gorau posibl.
“Yn bwysig iawn bydd hefyd yn sicrhau llawer o swyddi parhaol yn yr ardal, a byddwn hefyd yn datblygu’r tir o’i gwmpas i gefnog cynefinoedd naturiol.
“Rydym wedi buddsoddi cryn dipyn o amser ac adnoddau yn cynllunio’r dirwedd gyda thîm arbenigol a byddwn yn falch o arddangos y canlyniadau i’r gymuned leol.”