Bydd £206,000 o gyllid ychwanegol ar gael i helpu cyn-staff ffatri 2 Sisters ar Ynys Môn i gael swyddi newydd.
Daw’r cyhoeddiad gan Weinidog Economi Cymru, Vaughan Gething, wedi i 700 o swyddi gael eu colli yn sgil cau’r ffatri prosesu ieir ar Ynys Môn, gan nad oedd y ffatri yn gynaliadwy bellach.
Bydd yr arian yn rhoi hwb i raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru (CfW+) ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd.
Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth cyflogadwyedd i’r rhai sy’n wynebu rhwystrau rhag cael gwaith, gan eu helpu i oresgyn y rhwystrau hynny a chanfod cyflogaeth gynaliadwy.
Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno’n bennaf drwy awdurdodau lleol ond gyda nifer fach o gyrff y trydydd sector hefyd yn cymryd rhan, gan gynnwys elusen cyflogaeth leol Môn CF ar Ynys Môn.
Cymorth wedi’i deilwra i’r cyn-staff
Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn:
- Galluogi Môn CF a Chyngor Gwynedd i gyflogi mentoriaid cyflogaeth ychwanegol drwy’r flwyddyn nesaf.
- Caniatáu i CF Môn gomisiynu gwasanaethau Cyngor ar Bopeth i’r rhai a ddiswyddwyd.
Mae cyn-staff y ffatri hefyd yn cael cymorth trwy raglen ReAct+ Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi cymorth wedi’i deilwra iddynt i ddod o hyd i waith cyn gynted â phosib.
Mae timau CfW+ wedi bod ar y safle yn cefnogi staff y ffatri yn Llangefni ers rhai wythnosau, a byddan nhw nawr yn dwysáu eu hymdrechion i drafod gydag a chefnogi’r rhai sydd wedi eu heffeithio yn dilyn cau’r ffatri yn ffurfiol yr wythnos ddiwethaf.
‘Gwneud popeth o fewn ein gallu’
“Mae cau ffatri 2 Sisters yn Llangefni wedi cael effaith ddinistriol ar y gymuned leol a’r rhanbarth ehangach,” meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.
“Sefydlodd Llywodraeth Cymru dasglu ar y cyd â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau fod popeth y gellid ei wneud yn cael ei wneud i helpu i achub y swyddi yn y ffatri.
“Mae’r tasglu wedi gweithio mewn cydweithrediad agos gyda chynrychiolwyr undebau llafur ar y safle.
“Ar ôl i’r ffatri gau, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu cyn-staff i ddod o hyd i waith.”