Mae ymgyrchwyr gwrth niwclear yn rhybuddio bod cyhoeddiad am Borthladd Rhydd newydd ar Ynys Môn yn “ffordd i mewn ar gyfer datblygiadau niwclear newydd diangen ar yr ynys”, gydag o leiaf chwech o gefnogwyr y cais â chysylltiadau uniongyrchol â’r diwydiant.


Wedi’u henwi ymysg noddwyr cais y Porthladd Rhydd mae busnesau diwydiant niwclear blaenllaw, Assystem, Bechtel, Last Energy, Molten Flex N, Rolls-Royce SMR, a New Cleo, pob un ohonynt yn ceisio datblygu a lleoli gorsafoedd pŵer niwclear newydd ar safle Wylfa ar yr ynys a mannau eraill yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r cyfan yn cystadlu am sylw’r cyhoedd a chronfeydd cyhoeddus drwy gyhoeddi datganiadau i’r cyfryngau sy’n aml yn gwneud honiadau carlamus eu bod ar fin cyflwyno cynnyrch ledled y Deyrnas Unedig. Eto i gyd, dydy eu dyluniadau gorsafoedd pŵer niwclear a elwir yn Adweithyddion Modiwlaidd bach (hyd yn hyn) heb eu profi, heb awdurdod, a heb eu hadeiladu.

Mae aelodau eraill o’r consortia Freeport yn cynnwys Prifysgol Bangor, â’i Sefydliad Dyfodol Niwclear; M-Sparc, â’i gysylltiadau ag adran niwclear y Brifysgol; a Chymdeithas Cynghorau Gogledd a Chanolbarth Cymru, sy’n cynnwys Cynghorau Ynys Môn a Gwynedd sydd wedi bod yn barod eu cefnogaeth i ynni niwclear.

Cyfarfu chwe grŵp gwrth-niwclear Cymreig – CADNO, CND Cymru, Cymdeithas yr Iaith, PAWB (Pobl Atal Wylfa B / People against Wylfa-B), WANA (Cynghrair Wrth-Niwclear Cymru) a’r NFLA Cymreig (Awdurdodau Lleol Di-niwclear) yng Nghaernarfon, Gwynedd ym mis Gorffennaf 2022, gan lofnodi Datganiad yn addo eu gwrthwynebiad i bwerdai niwclear newydd ac i ymladd dros ddyfodol gwyrdd a chynaliadwy i Gymru.

Mae’r ymgyrchwyr gwrth-niwclear Cymreig hyn yn poeni am ddiffyg tryloywder ac ymgysylltu â’r cyhoedd am gyfranogiad helaeth chwaraewyr niwclear yn y cais Porthladd Rhydd ac maen nhw’n siomedig ofnadwy, ar wahân i un busnes ynni morol, nad oes cynhyrchwyr ynni gwyrdd mwy gwirioneddol yn y gymysgedd.

Mae adroddiad diweddar y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd yn tynnu sylw at frys y camau sydd eu hangen “i atal colledion a niwed o newid hinsawdd, yn aml y tu hwnt i allu ein (a’n planed’) i addasu”. Mae’r adroddiad yn dangos yn glir mai’r llwybr rhataf a chyflymaf i liniaru effeithiau newid hinsawdd yw trwy fabwysiadu technolegau ynni adnewyddadwy, mesurau effeithlonrwydd ynni, rheoli ochr y galw (i leihau’r galw am ynni) a gostyngiad mewn allyriadau methan.

Dim ond cyfeiriad arwynebol a damniol sydd at bŵer niwclear mewn graff sy’n darlunio ei draul gymharol a’i ddiffyg effaith ddefnyddiol.

Felly, er y gallai’r cyhoeddiad cychwynnol fod wedi ymddangos yn ddigalon, yn sgil adroddiad yr IPCC, mae gweithredwyr gwrth-niwclear yn arfogi eu hunain ar gyfer ymgyrch barhaol i wneud porthladd rhydd newydd Môn yn wirioneddol ‘Wyrdd’.

Mewn ymateb i’r newyddion, dywedodd Linda Rogers o CND Cymru: “Er bod awdurdod rhyngwladol blaenllaw’r byd yn nodi’n glir mai’r ffordd i sicrhau byd cynaliadwy yw trwy ddulliau adnewyddadwy a’r cyfoeth o adnoddau ynni adnewyddadwy sydd ar gael i ni, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fwydo’r diwydiant pŵer niwclear costus a pheryglus, â’n harian, gan wneud cytundebau y tu ôl i ddrysau caeedig â Llywodraeth Prydain a rhoi ein dyfodol yn y fantol. A’r cyfan i sybsideiddio’r diwydiant arfau niwclear. Does gan hyn ddim i’w wneud ag unrhyw beth “gwyrdd”.

Ar ran Cymdeithas yr Iaith, dywedodd y cadeirydd presennol Robat Idris: “Mae niwclear yn cynrychioli bygythiad dirfodol nid yn unig i fywyd dynol ar sawl lefel, ond hefyd i fodolaeth y Gymraeg a’i chymunedau cefnogol yn ei chadarnleoedd yn yr ardaloedd helaeth sy’n amgylchynu’r safleoedd yn Wylfa a Thrawsfynydd. Ni all fod cyfiawnhad, mewn ardal â digonedd o ffynonellau o ynni naturiol, i osod diwydiant echdynnol, gwenwynig gydag etifeddiaeth ddi-ben-draw o wastraff.”

Ar gyfer Awdurdodau Lleol Rhydd Cymru, ychwanegodd yr Ysgrifennydd Richard Outram: “Gyda’r potensial i bweru Cymru â thechnolegau gwynt, hydro, solar, llanw a thonnau’r môr, y rhan fwyaf ohonynt ar gael nawr neu wedi’u datblygu i raddau helaeth, gallai’r Porthladd Rhydd fod wedi cynrychioli cyfle go iawn i greu canolfan ynni adnewyddadwy o ragoriaeth ar yr Ynys Ynni fel y caiff ei hadnabod. Yn anffodus, mae’n edrych fel petai’r rhan fwyaf o’r gwahoddiadau i’r parti wedi mynd i bwysigion y diwydiant niwclear, yn hytrach na chynhyrchwyr ynni gwirioneddol wyrdd.”

[Llofnodwyd y datganiad hwn ar y cyd gan CADNO (Cymdeithas Atal Dinistr Niwclear Oesol), CND Cymru, Cymdeithas yr Iaith, PAWB (Pobol Atal Wylfa B), WANA (Cynghrair Gwrth-niwclear Cymru), a NFLA (Awdurdodau Lleol Diniwclear Cymru).]