Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £300,000 o gyllid er mwyn cynnal dwy fenter i helpu plant sy’n cael anawsterau gyda’u lleferydd a’u hiaith.

Mae cannoedd o fyrddau cyfathrebu sy’n seiliedig ar symbolau ar fin cael eu gosod mewn cymunedau ar draws Cymru, yn dilyn prosiect a gyflwynwyd yn wreiddiol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel y cyntaf o’i fath yng Nghymru.

O fis yma ymlaen, bydd dros 300 o’r byrddau i’w gweld mewn parciau a mannau cyhoeddus ar draws pob rhanbarth o Gymru.

Mae prosiect ar wahân hefyd ar y gweill i helpu i ddarparu llais i blant sydd ddim yn llafar neu sydd â lleferydd cyfyngedig gan ddefnyddio technoleg arbenigol.

Byrddau cyfathrebu

Nod y byrddau yw cefnogi rhyngweithio, chwarae a hwyl rhwng plant o bob oed a gallu, eu cyfoedion a’u teuluoedd yn ystod eu hamser mewn parciau chwarae.

Mae’r byrddau, sydd wedi’u dylunio gan grŵp o Therapyddion Iaith a Lleferydd arbenigol, yn cynnwys amrywiaeth o symbolau cyffredinol a geiriau defnyddiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae’r byrddau gweledol yn un o lawer o ddulliau cyfathrebu amgen sydd wedi cael eu datblygwyd ar gyfer plant ag anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu, a gallai’r rhain fod yn blant â pharlys yr ymennydd neu gyflyrau ar y sbectrwm awtistig.

Mae Carol Schuurman o Geredigion yn fam i fachgen awtistig sy’n cyfathrebu heb eiriau, a daeth ar draws bwrdd cyfathrebu sydd wedi’i osod yn eu parc lleol yn ddiweddar.

“Pan oedden ni yn y parc roedd fy mab wedi dod oddi ar y sleid ac yna cerddodd tuag at y bwrdd cyfathrebu ar ben ei hun, ac fe wnes i ddilyn.

“Dyma’r tro cyntaf i ni weld y bwrdd, ac roedd yn gallu pwyntio at y symbol diod i ddangos ei fod yn sychedig.

“Sylweddolais fy mod wedi gadael ei botel ddŵr yn y car, felly es i’w nôl ac yna fe lowciodd i lawr.

“Hwn oedd y tro cyntaf iddo gyfathrebu â mi fel hyn ei fod angen diod, a fyddwn i ddim wedi gwybod ei fod yn sychedig oni bai bod y bwrdd wedi bod yno.

“Roedd y cyfathrebu hawdd rhyngom yn gwneud i mi deimlo’n gynnes.

“Dydy’r ffaith ei fod e ddim yn gallu siarad ar lafar ddim yn golygu nad oes ganddo lawer i’w ddweud.

“Mae angen inni ddod o hyd i’r offer i’w helpu i ffynnu yn y byd, yn union fel yr un yma.

“Roedd yn grymuso.”

Adlewyrchu tafodieithoedd ledled Cymru

Mae cymhorthion cyfathrebu allbwn llais eisoes ar gael i rai plant sydd ag anawsterau lleferydd, ond ar hyn o bryd mae plant o Gymru sy’n defnyddio’r dyfeisiau wedi’u cyfyngu i naill ai lleisiau plant ag acenion Saesneg neu leisiau oedolion Cymraeg eu hiaith.

Mae cyllid o £271,000 gan Lywodraeth Cymru yn gobeithio newid hyn, gyda chyfres o leisiau plant bellach yn cael eu recordio yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd cyfanswm o 16 o leisiau newydd ar gael, yn adlewyrchu’r rhanbarthau a thafodieithoedd ledled Cymru ac yn cynrychioli’r plant sy’n dibynnu ar y dyfeisiau cyfathrebu.

Mae disgwyl y bydd y lleisiau newydd ar gael i blant drwy Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru’n ddiweddarach eleni.

Acen ac iaith sy’n cynrychioli’r defnyddwyr

Dywedodd Dr Jeffrey Morris, Pennaeth Gwasanaeth Technoleg Gynorthwyol Electronig Cymru ac sy’n arwain y gwaith o gyflwyno’r lleisiau Cymraeg newydd: “Oherwydd cost datblygu, yn anffodus nid yw cwmnïau sy’n gweithredu yn y maes hwn wedi gallu blaenoriaethu tafodieithoedd a modelau iaith ac felly rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gamu i mewn ac ariannu’r gwaith pwysig hwn a fydd yn cael effaith aruthrol ar y plant sy’n dibynnu ar y dyfeisiau hyn.

“Rydym yn rhagweld y bydd y lleisiau newydd hyn yn lleihau ymhellach y rhwystrau i blant sy’n defnyddio dyfeisiau cyfathrebu uwch-dechnoleg yng Nghymru, gan ganiatáu iddynt siarad ag acen ac iaith sy’n cynrychioli eu teulu a’u cyfoedion.”