Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu cynlluniau diwygio’r Senedd Mark Drakeford gan ddweud bod meysydd eraill y dylid y Prif Weinidog ganolbwyntio arnyn nhw.
Yn ôl datganiad a ryddhawyd gan y Prif Weinidog Mark Drakeford ddechrau’r wythnos, “mae cynnydd da” yn cael ei wneud mewn datblygu manylion polisi diwygio’r Senedd.
Yn y datganiad, mae’n amlinellu’r themâu polisi eang sydd wedi datblygu ers ei ddatganiad diwethaf ym mis Rhagfyr ar sail argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd.
Dywedodd y Prif Weinidog eu bod “nhw’n adlewyrchu’r casgliadau y daeth y Pwyllgor Busnes iddynt yn ei adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr.”
Ymysg rhain mae cynyddu’r nifer uchaf o Ddirprwy Lywyddion y gellir eu hethol o un i ddau, cynnwys cwotâu rhywedd statudol integredig ar gyfer ymgeiswyr pleidiau a chynyddu uchafswm Gweinidogion Cymru o 12 i 17 – neu 19 gyda chymeradwyaeth y Senedd.
‘Cynlluniau hollol ddiangen’
Fodd bynnag, mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi beirniadu cynllun y Prif Weinidog gan ddweud mai diwygio’r Senedd ddylai fod “y peth olaf” ar ei feddwl.
“O edrych ar broblemau mewnol y Prif Weinidog; Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru mewn argyfwng, system addysg mewn cyflwr gwael, ac economi wan gyda niferoedd swyddi yn gostwng, y peth olaf a ddylai fod ar ei feddwl yw bwrw ymlaen â’i gynllun i anfon mwy o wleidyddion i Fae Caerdydd.
“Rydyn ni’n gwybod y bydd hyn yn dod ar gost o tua £100 miliwn i drethdalwyr Cymru a gyda chynlluniau hollol ddiangen i gynyddu nifer y Gweinidogion hyd at 19, fe allai’r pris fod hyd yn oed yn uwch.
“Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sy’n brwydro i atal y cynigion hyn i greu mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd gan Mark Drakeford o’r Blaid Lafur,” meddai.
Er hynny, mae’r Prif Weinidog wrthi’n ystyried datblygiadau polisïau cysylltiedig pellach oedd ddim yn rhan o argymhellion gwreiddiol y Pwyllgor.
Mae’r rhain yn cynnwys gofyniad i ymgeiswyr ac Aelodau’r Senedd fyw yng Nghymru, a’r gofyniad i ymgeiswyr ddatgan unrhyw aelodaeth o blaid wleidyddol yn y 12 mis cyn etholiad.
“Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda phartneriaid cyflenwi mewn nifer o fforymau i ystyried y trefniadau gweithredu ar gyfer y diwygiadau hyn a datblygu’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer y dogfennau ategol a fydd yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth.
“Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn ar y cyd â’r diwygiadau sy’n cael eu datblygu yn dilyn yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol,” meddai Mark Drakeford.
Mewn lle erbyn 2026
Argymhellir bod y newidiadau i’r Senedd yn eu lle erbyn 2026, yr un flwyddyn ag etholiadau nesaf y Senedd.
Er mwyn gwneud hyn bydd yn rhaid i’r Llywodraeth gyflwyno bil i wneud y newidiadau yn gyfraith yn 2023, ac yna cyflawni’r newidiadau hyn dros y blynyddoedd nesaf.
Tra bod rhai wedi beirniadu’r costau ychwanegol a ddaw wrth ddiwygio’r Senedd, y brif ddadl o blaid y cynlluniau yw y bydd yn galluogi i Aelodau o’r Senedd drafod mwy o gyfreithiau a pholisïau.
Bydd diweddariad pellach gan Mark Drakeford ar y cynlluniau yn ystod toriad yr haf.