Yn ôl un tad, mae’r argyfwng costau byw wedi effeithio arno i’r fath raddfa nes ei fod yn ei chael hi’n anodd prynu wyau Pasg i’w blant.
Dydy pobol ddim yn teimlo fel eu bod nhw’n gallu fforddio gwario ar nwyddau sydd ddim yn angenrheidiol, meddai un banc bwyd yn Aberystwyth.
Mae nifer y bobol sy’n defnyddio Banc Bwyd Stordy’r Jiwbilî ym Mhenparcau wedi cynyddu 43% mewn blwyddyn, ychwanegodd cydlynydd y banc bwyd.
Wrth siarad â golwg360, dywedodd dyn o ochrau Arfon sydd am aros yn ddienw, ei fod yn gweld wyau Pasg fel rhan bwysig o ddathlu’r ŵyl gyda’i blant, a’i fod yn “ofnadwy o drist” nad yw’n gallu eu fforddio eleni.
“Roedd gennyf blant oedd angen wy Pasg, a nai a nithoedd,” meddai’r dyn.
“Doeddwn i methu fforddio wy Pasg oherwydd bod costau bob dim wedi mynd fyny.
“Mae costau morgais, trydan a dŵr wedi mynd fyny.
“Dydy wyau Pasg ddim yn angenrheidiol ond pan oeddwn yn blentyn roeddwn bob tro’n cael wy Pasg ac roedd yn gwneud fy Mhasg.
“Mae’n torri fy nghalon i nad ydy fy mhlant i’n mynd i gael wy Pasg Pasg yma.
“Byddwn yn dweud mai wy Pasg sy’n gwneud yr ŵyl i blant.”
Galw wedi “dyblu” ers Medi
Yn ôl Catherine Griffiths sy’n gydlynydd Banc Bwyd Stordy’r Jiwbîli, Penparcau does gan bobol ddim yr arian i wario ar bethau sydd ddim yn angenrheidiol, ac felly mae wyau Pasg wedi cael eu rhoi iddyn nhw eleni.
“Mae popeth wedi mynd lan,” meddai Catherine Griffiths wrth golwg360.
“Mae wyau Pasg yn fwy drud, ond mae popeth yn y siopau wythnosol wedi mynd lan cymaint.
“Rwy’n meddwl bod pobol nawr yn meddwl mwy a ydy’r cynnyrch yn rhywbeth mae’n rhaid iddyn nhw ei brynu neu beidio.
“Does dim digion o arian i fynd o gwmpas.
“Rydym wedi cael rhoddion o wyau Pasg gan Undeb UNISON yn lleol.
“Maen nhw wedi prynu llawer o wyau Pasg bach i ni fel ein bod yn gallu rhoi nhw mas i bobol, sy’n garedig iawn.”
Yn ôl Catherine Griffiths, mae “pethau wedi mynd yn wallgof” yn y banc bwyd ers mis Medi.
“Rydym wedi gweld cynnydd mawr yn y bobol sydd eisiau bwyd o fanc bwyd.
“Mae wedi mynd lan tua 43% o fewn blwyddyn.
“Bythefnos yn ôl roedden yn cael 172 o bobol eisiau bwyd mewn wythnos, cyn fis Medi roedd yn 50 i 80 yr wythnos.
“Mae wedi dyblu ers mis Medi.”