Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am fuddsoddi er mwyn gwella ac atal boddhad bywyd isel mewn pobol ifanc.
Yn ôl adroddiad newydd, adroddodd bron i chwarter disgyblion ysgol uwchradd Cymru am lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl yn y blynyddoedd yn dilyn Covid-19.
Mae canfyddiadau’r adroddiad diweddaraf gan Rwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) Prifysgol Caerdydd yn dangos bod 24% o bobol ifanc yng Nghymru wedi profi lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl.
Roedd merched (28%) bron ddwywaith yn fwy tebygol na bechgyn (16%) o fod wedi rhoi gwybod am lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl.
Yr Arolwg o Iechyd a Lles Disgyblion yw’r mwyaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig gan i fwy na 123,000 o ddisgyblion rhwng blynyddoedd 7 ac 11 o 202 o ysgolion yng Nghymru gymryd rhan yn 2021/22
Cafodd ei baratoi gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ac mae’n rhoi’r trosolwg manwl cyntaf o iechyd a lles pobol ifanc ers i’r pandemig ddechrau.
Iechyd meddwl
Roedd mesurau eraill yn dangos bod un o bob dau (53%) o bobol ifanc hefyd wedi rhoi gwybod eu bod yn teimlo o leiaf rywfaint o bwysau oherwydd eu gwaith ysgol, ac mae un o bob pedwar (27%) yn teimlo llawer o bwysau.
Roedd y rhan fwyaf o’r rhai a holwyd yn teimlo bod cymorth ar gael iddyn nhw.
Roedd dwy ran o dair (66%) yn cytuno bod aelod o staff yn yr ysgol y gallan nhw ymddiried ynddo ac roedd y rhan fwyaf yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu derbyn gan eu hathrawon (70%).
Roedd mwy na hanner (65%) y sawl a holwyd yn cytuno eu bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth emosiynol sydd eu hangen arnyn nhw gan eu teulu, tra bod bron i ddwy ran o dair (63%) yn cytuno y gallan nhw ddibynnu ar eu ffrindiau pan fydd pethau’n mynd o chwith, ac roedd 29% yn cytuno’n “gryf iawn” yn hyn o beth.
Canfuwyd hefyd bod boddhad bywyd ymhlith pobol ifanc wedi gostwng yn raddol rhwng 2017 a 2021.
Atebodd 78% sgoriau uwch am foddhad bywyd, o gymharu â 85% yn 2017.
Cefnogi iechyd meddwl yn ‘flaenoriaeth lwyr’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc yn flaenoriaeth lwyr i ni.
“Rydym yn parhau i weithio’n galed i sicrhau bod ystod eang o gymorth effeithiol ar gael i ddiwallu eu hanghenion, gymorth a gwasanaethau mynediad hawdd i’r gofal mwyaf arbenigol.
“Rydym wedi buddsoddi mewn dull ysgol gyfan o gefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc ac wedi rhoi pwyslais ar atal ac ymyrraeth gynnar, gyda buddsoddiad mewn cwnsela ysgolion, ein llinell gymorth GALWAD, cefnogaeth argyfwng a chyflwyno’r fframwaith NYTH/NEST ledled Cymru.”
Ymarfer corff a defnydd o dechnoleg
Rhan arall o ymchwil yr holiadur oedd canfod pa ganran o bobol ifanc sy’n treulio saith awr neu fwy mewn diwrnod yn eistedd, er enghraifft, yn defnyddio cyfrifiadur neu ffôn symudol, gwylio teledu, yn teithio mewn car neu fws, yn eistedd ac yn siarad, bwyta, astudio.
Roedd 18% yn dweud eu bod yn llonydd am 7 awr neu fwy’r dydd yn ystod yr wythnos (dydd Llun i ddydd Gwener).
Mae hyn yn gynnydd o 8% ers 2017.
Dywedodd 38% eu bod yn edrych ar sgrin electronig am 11.30pm neu’n hwyrach pan fydd ganddynt ysgol y diwrnod wedyn.
Dangosodd yr ymchwil hefyd mai dim ond 16% o bobol ifanc oedd yn bodloni’r canllawiau ymarfer corff a argymhellir o 60 munud bob dydd, sy’n gwymp o 2% ers 2017.
‘Angen buddsoddi mewn gwella, ond hefyd atal’
Wrth ymateb i ganfyddiadau’r adroddiad, dywedodd Gweinidog dros Addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Laura Anne Jones: “Ers cyfnodau clo goreiddgar Llywodraeth Cymru, rydyn ni nawr yn gweld canlyniadau dinistriol yr arolwg newydd hwn.
“Mae yna ddiffyg neu ychydig o ddewisiadau eraill ar gyfer pobol ifanc yn ein hardaloedd lleol, ac ychydig neu ddim gweithgareddau chwaraeon neu hamdden addas neu fforddiadwy.
“Mae’n amlwg bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cam â’n pobol ifanc.
“Ni roddwyd unrhyw gymorth iechyd meddwl i ysgolion, fel yr addawyd gan Lywodraeth Cymru fel ‘blaenoriaeth’ dybiedig, i helpu iechyd meddwl a lles pobol ifanc.
“Mae ysgolion wedi gorfod ceisio mynd i’r afael â’r cynnydd enfawr mewn cymorth iechyd meddwl sydd ei angen ar ben eu hunain a fesul ysgol.
“Mae hon yn broblem genedlaethol ac mae angen buddsoddi mewn ‘gwella’, ond hefyd ‘atal’.”
Cynllun peilot Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun peilot sy’n canolbwyntio ar wella iechyd meddwl a lles disgyblion yn dilyn y pandemig.
Mae ysgol uwchradd Brenin Harri VIII yn y Fenni, Sir Fynwy, sy’n rhan o’r cynllun, wedi dewis disgyblion i fod yn llysgenhadon iechyd meddwl i helpu i annog gwell lles yn eu cyfoedion.
Dywed y Pennaeth Cynorthwyol, Jake Parkinson, ei fod wedi bod yn fuddiol.
“Mae bod yn ysgol beilot ar gyfer yr ymagwedd ysgol gyfan at les emosiynol a meddyliol wedi bod yn brofiad dysgu cadarnhaol iawn i’r ysgol,” meddai.
“Mae’r fframwaith hwn wedi ein helpu i ddathlu’r holl bethau gwych yr ydym yn eu gwneud eisoes, ond mae hefyd wedi cynorthwyo’r ysgol i nodi meysydd i’w datblygu ymhellach, gan ein helpu i flaenoriaethu anghenion trwy hunanwerthuso ar sail tystiolaeth.”