Bydd sefydliadau yn y sector gwirfoddol yn manteisio ar rodd o £1m gan Lywodraeth Cymru er mwyn eu helpu i ymdopi gyda’r argyfwng costau byw.
Daw hyn yn dilyn apêl argyfwng costau byw Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd, a sefydlwyd gan Sefydliadau Cymunedol Cymru mewn partneriaeth gyda Newsquest.
Bydd cymorth yn cael ei ddarparu i sefydliadau llawr gwlad yn y sector gwirfoddol ar ffurf grantiau sy’n amrywio o £2,000 i £5,000 er mwyn eu helpu gyda chostau cynyddol.
Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau sy’n darparu cyngor, bwyd, nwyddau angenrheidiol, gofal plant a chefnogaeth i bobol hŷn.
‘Diwallu anghenion y gymuned’
Mae Steps4Change yn ardal Trebiwt, Caerdydd yn cynnig cymorth cymunedol i deuluoedd sy’n agored i niwed ac yn debyg o elwa ar y math hwn o rodd.
Trebiwt yw un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac mae Steps4Change yn darparu rhywle diogel a chroesawgar ar gyfer y gymuned leol.
“Mae’n wych gweld bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i helpu diwallu anghenion y gymuned,” meddai Tony Ogunsulire, Cyfarwyddwr Steps4Change.
“Bydd y cyllid hwn gan Sefydliad Cymunedol Cymru yn helpu i dalu ein costau fel ein bod ni’n gallu parhau i gynnig dosbarthiadau fel hyn.”
Mae’r sefydliad yn cynnal dosbarthiadau coginio ar gyfer pobol ifanc.
“Mae’n gwella eu hyder a’u sgiliau cyfathrebu, ac yn rhoi sgiliau byw iddyn nhw y byddan nhw’n elwa ohonyn nhw wrth fynd yn hŷn.
“Mae’n helpu i newid y ffordd y maen nhw’n meddwl am ffrwythau a llysiau, fel eu bod nhw’n fwy tebygol o goginio na chael tecawê,” meddai.
Nifer cynyddol yn dibynnu ar gymorth
Mae ffigyrau gan Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn dangos bod nifer cynyddol o sefydliadau angen cymorth gyda’r ffigwr yn codi o 2,457 yn 2018-19 i 4,317 yn 2020-21.
Yn ystod tri chwarter cyntaf y cyfnod 2022-23, mae 3,850 sefydliad wedi derbyn cymorth, sy’n awgrymu bydd y duedd yma’n parhau.
Mae’r sector gwirfoddol wedi gorfod llenwi rhai o fylchau’r sector cyhoeddus wrth i’r galw gynyddu sy’n golygu bod sawl sefydliad gwirfoddol o dan straen economaidd.
“Fel cymdeithas rydyn ni’n fwyfwy dibynnol ar y sector gwirfoddol i ddarparu cymorth i’r bobol hynny yn ein cymunedau sydd fwyaf agored i niwed,” meddai Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
“Maen nhw’n chwarae rôl hanfodol trwy gynnig cymorth gofal plant, banciau bwyd sy’n helpu aelwydydd i fwydo eu teuluoedd, a gwasanaethau sy’n rhoi cyngor ar sut y gall pobol wneud y gorau o’u hincwm.
“Rydyn ni’n falch y gallwn ni roi’r rhodd hon i ‘Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – apêl argyfwng costau byw’ a bydden ni’n annog sefydliadau eraill i wneud rhoddion eu hunain hefyd, gan y bydd y gronfa hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau ledled Cymru.”
‘Misoedd anodd’ i ddod
Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi bod yn darparu cyllid i gefnogi elusennau a grwpiau cymunedol Cymru ers dros 20 mlynedd er mwyn annog cydraddoldeb a chyfleoedd ar draws Cymru.
Yn ôl Richard Williams, eu Prif Weithredwr, mae angen i bawb fel cymdeithas gefnogi grwpiau fel Steps4Change er mwyn iddynt oroesi’r argyfwng ariannol.
“Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi derbyn y rhodd hael hon gan Lywodraeth Cymru ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o bobol i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth mawr i’r llu o bobol sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi drwy’r argyfwng costau byw,” meddai.
“Bydd y grantiau o’r apêl hon yn gwneud llawer i sicrhau bod y sefydliadau sy’n cefnogi’r rhai sydd â’r angen mwyaf yn gallu parhau i wneud hynny nawr, ac yn y misoedd anodd sydd i ddod.”