Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnig mwy o gymorth i fusnesau sy’n wynebu costau ynni uchel.

Cadeiriodd Vaughan Gething gyfarfod gyda chwmnïau cyflenwi ynni a chynrychiolwyr busnesau ddydd Mawrth (Ebrill 4).

Roedd Cydffederasiwn Diwydiant Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach a Siambrau Cymru yn bresennol er mwyn trafod effaith prisiau ynni uchel a pha gymorth sydd ar gael.

Yn ystod y cyfarfod dywedodd Vaughan Gething bod costau ynni uchel yn cael “effaith dinistriol” ar fusnesau bach Cymru.

“Mae costau ynni uchel wedi bod yn broblem i’r busnesau hyn ers cryn amser.

“Rydyn ni’n rhannu eu pryderon bod y gostyngiad uchaf wedi cael ei bennu ar lefel na fydd yn ddigonol os bydd prisiau’n codi’n aruthrol, a bydd hyn yn effeithio ar eu cystadleurwydd ymhellach ac, mewn llawer o achosion, eu hyfywedd.

“Rwy’n galw unwaith eto ar i’r Canghellor weithredu yng Nghyllideb y Gwanwyn yr wythnos hon.

“Rhaid iddo gyflwyno pecyn o fesurau a fydd yn helpu busnesau Cymru i oroesi’r cyfnod hynod anodd hwn, i fynd i’r afael â’r broblem hirsefydlog o brisiau ynni uchel yn y Deyrnas Unedig a chefnogi’r broses o drosglwyddo i Sero Net,” meddai.

Dywed bod Gweinidogion Cymru’n croesawu’r penderfyniad a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymestyn y cymorth sydd ar gael ar gyfer y defnydd o egni domestig ac annomestig.

Fodd bynnag, cododd bryderon na fydd y cymorth yma’n ddigon.

Teirgwaith y gost

Rhwng Hydref 2022 a Mawrth 2023 roedd Cynllun Rhyddhad ar Filiau Ynni Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi cap pris fesul uned ar drydan a nwy.

Yn dilyn adolygiad, cafodd y cynllun ei ddisodli gan y Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni a fydd yn gweithredu rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024.

Y pryder yw bod cymorth y Cynllun Gostyngiad mewn Biliau yn llai na’r cynllun blaenorol ac felly ddim yn cynnig cymorth digonol i fusnesau.

Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru, byddai 1,600 MWh o nwy a 200 MWh o drydan yn costio £215,000 y mis o dan y cynllun gwreiddiol.

O dan y cynllun newydd, mae’n debyg y bydd y gost deirgwaith hynny, gan roi busnesau o dan straen.

‘Byddwn yn parhau i gefnogi busnesau’

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae prisiau ynni wedi gostwng ond bydd cymorth yn parhau i gael ei gynnig i fusnesau dros y misoedd nesaf.

“Bydd cwmnïau mawr a bach yn elwa’n sgil y gostyngiad sylfaenol drwy ein cynllun biliau ynni newydd ac nid oes angen iddynt wneud cais amdano, a bydd lefel uwch o gymorth yn cael ei ddarparu i’r busnesau ynni mwyaf a masnach ddwys,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Rydym wedi bod yn helpu busnesau drwy gydol y gaeaf gyda £5.6 biliwn o gymorth, gan alluogi i rai dalu dim ond tua hanner y costau ynni cyfanwerthu a ragwelir.

“Mae prisiau ynni byd-eang wedi gostwng yn sylweddol ac maent bellach ar eu lefel isaf ers cyn i Rwsia oresgyn Wcráin yn anghyfreithlon.

“Mae’r lefel newydd o gefnogaeth gan y llywodraeth yn adlewyrchu’r gostyngiad hwn mewn prisiau, ond byddwn yn parhau i gefnogi busnesau, fel yr ydym wedi’i wneud dros y gaeaf.”