Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd dau gynllun ar gyfer benthyca e-feiciau sydd wedi llwyddo i annog mwy o drigolion i gyfnewid eu car am feic yn derbyn arian ychwanegol am flwyddyn arall.
Dechreuodd cynllun E-Move, sy’n cael ei weithredu gan gynllun ‘See Cycling Differently’ Sustrans a Pedal Power, yn 2021 gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, ac mae nifer sylweddol o bobol wedi defnyddio eu gwasanaeth.
Mae Sustrans yn cynnig e-feiciau amrywiol ar fenthyciad tymor canolig, i drigolion lleol sydd ddim yn beicio’n rheolaidd neu sy’n teimlo bod cost e-feiciau yn rhwystr i’w defnyddio.
Amcangyfrifir bod y cynllun sy’n gweithredu mewn pum lleoliad ar draws Cymru – y Rhyl, Abertawe, Y Drenewydd (sydd â chysylltiadau ag Aberystwyth), a’r Barri – wedi arbed 600kg o garbon deuocsid yn ei flwyddyn gyntaf, gyda defnyddwyr yn adrodd gostyngiad o 39% mewn teithiau car ac effaith gadarnhaol ar eu lles.
Gwell i’r amgylchedd, rhatach, ac yn “wych” i iechyd meddwl
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, Lee Waters: “Rwyf wrth fy modd bod y cynlluniau hyn sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn llwyddiant mawr.
“Mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i annog mwy o bobol i gyfnewid eu car am feic ar gyfer teithiau byrrach.
“Mae beicio yn well i’r amgylchedd ac mae hefyd yn llawer rhatach na rhedeg car ac yn wych i’ch iechyd meddwl a chorfforol hefyd – fel beiciwr rheolaidd, rwy’n gwybod bod hyn yn wir.
“Dylech chi roi cynnig arni!”
‘Hapus iawn’
“Nododd 70% o’r cyfranogwyr effaith gadarnhaol ar eu hiechyd, a 76% effaith gadarnhaol ar eu lles,” meddai Rheolwr Rhaglen Sustrans, Liz Rees.
“Amcangyfrifir bod cyfranogwyr a sefydliadau wedi arbed 600kg o garbon deuocsid ym mlwyddyn gyntaf y prosiect drwy ddefnyddio e-feiciau a beiciau e-cargo yn lle ceir neu faniau.
“Mae Sustrans yn hapus iawn ei fod wedi derbyn blwyddyn arall o gyllid ar gyfer y prosiect E-Move yn 2023/24.
“Bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau mwy o gydraddoldeb rhwng y rhywiau ymhlith buddiolwyr y prosiect, ymgorffori’r prosiect ar draws ein cymunedau ffocws, a helpu gyda threfniadau gwaddol fel y gallwn drosglwyddo perchnogaeth o’r e-feiciau i’r cymunedau lleol pan ddaw’r prosiect i ben.”
E-feiciau i ddosbarthu bara
Un o’r busnesau sydd wedi elwa o gynllun Sustrans yw Rosa’s Bakery yng Nghastell-nedd sy’n defnyddio e-feiciau i ddosbarthu bara i’r gymuned.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Cwmni, Chris Cundill: “Mae hwn yn ffordd wych o gael ein bara allan i’r bobol sydd efallai methu cyrraedd y becws am ba bynnag reswm, a phan ddaethon ni i wybod am y cynllun yma, roedden ni wrth ein boddau oherwydd mae’n dipyn o risg ac rydych eisiau gweld a fydd yn llwyddo, rydych chi’n meddwl a fydd hyn yn gweithio yn ein lleoliad?
“Roedden ni wedi clywed am rai pobol yn Llundain yn defnyddio’r model yma, ond rydyn ni yng Nghastell-nedd, felly rydych yn meddwl a fydd yr un egwyddor yn gweithio yma, a ’da ni wrth ein boddau bod lot o gynnwrf yn ei gylch yn barod.”