Mae cynllun cartref nyrsio a gofal Penyberth gam yn nes wedi i gabinet Plaid Cymru gytuno i baratoi achos busnes i asesu gallu Cyngor Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd i gydweithio ar y prosiect.

Bydd achos strategol y Cyngor yn gwneud cais am £14.6m o’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Y bwriad yw cychwyn y cais cynllunio ddiwedd yr haf.

Y sector breifat sy’n llwyr gyfrifol am ddarpariaeth cartrefi nyrsio ar hyn o bryd, felly, fel cartref gofal o dan awdurdod lleol yng Nghymru byddai Penyberth yn torri tir newydd.

Gosod y safon i Gymru

Wrth siarad gyda golwg360 dywedodd Angela Russell, sy’n gynghorydd ar Lanbedrog ac yn arweinydd y Grŵp Annibynnol, bod hyn yn hollbwysig yn sgil yr argyfwng ariannol presennol.

“Dw i’n meddwl bod angen i’r Cyngor a’r Bwrdd Iechyd a phawb fod on board yn fan yma a chael rhywbeth unigryw i Ben Llŷn.

“Dw i’n meddwl bysa hyn wedyn yn gosod y safon i Gymru oll achos dw i’n siŵr fysa Cymru’n gallu dysgu llawer o’r datblygiad yma,” meddai.

Mae hi’n bwysig cael cartref gofal ym Mhen Llŷn gan fod rhaid i sawl un adael y sir er mwyn cael gwely nyrsio ar hyn o bryd, ychwanegodd.

“Rydyn ni wir angen y cartref gofal, mae yna ddiffyg difrifol achos does gynom ni ddim un gwely nyrsio yn Llŷn o gwbl.”

Yn ôl Plaid Cymru, mae’r diffyg hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar deuluoedd sydd eisiau ymweld â’r rheiny mewn gofal tra ei fod hefyd yn symud trigolion oddi wrth eu cymunedau.

“Mae’r lleoliad ym Mhenrhos yn hwylus i bawb ym Mhen Llŷn achos rydyn chi’n medru cael bys i fynd i fan yno felly mae’n bwysig ei gael o le mae o,” meddai Angela Russell.

Dywedodd ei bod hi’n obeithiol bydd y cais o £14.6m yn ddigon ond wrth i gostau gynyddu mae hi’n pryderu y bydd angen mwy.

“Bydd rhaid trio ei gael o i fod yn ddigon ond does ’na ddim byd yn mynd ar ei bris cychwynnol – mae bob dim yn mynd dros ei bris,” meddai.

Lleoliad ‘hwylus i bawb’

Yn ôl Dyfrig Siencyn, sy’n Gynghorydd ac yn arweinydd Plaid Cymru yng Ngwynedd, bydd y lleoliad yn gyfleus ar gyfer sawl un.

“Dwi’n gyffrous iawn am y datblygiad yma.

“Rydyn ni wedi bod yn trafod y lleoliad ers rhai blynyddoedd bellach, ac mae cael gweld symud yn y cynlluniau, yn newydd da.

“Bydd y ddarpariaeth yn gwasanaethu, nid yn unig trigolion Llŷn ac Eifionydd, ond hefyd, trigolion ardal Meirionnydd sydd angen gofal dementia,” meddai.

‘Chwyldroadol’

Disgrifiodd Dafydd Meurig, sy’n gynghorydd dros Arllechwedd y cynllun fel un “chwyldroadol” gan nodi arwyddocâd cael gwlâu nyrsio sydd heb eu darparu gan y sector breifat.

“Yn draddodiadol, y sector breifat sydd wedi bod yn darparu’r holl welyau nyrsio yn y sir ac mae ’na rywbeth reit anghyfforddus yn fanno, gan fod ni’n gosod ein hwyau i gyd yn yr un fasged,” meddai.

“Fel cyn aelod cabinet yn y maes, mae wedi bod yn bryder y gallai rhywbeth fynd o chwith gydag un o’n darparwyr preifat fyddai allan o’n dwylo ni.

“Lle fyddai hynny yn ein gadael wrth geisio cartrefu trigolion ein sir, sydd angen eu nyrsio?”

Bydd Cyngor Gwynedd yn cydweithio a Phrifysgol Betsi Cadwaladr, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Tai Clwyd Alun ar y prosiect.

Mae Plaid Cymru’n dweud y daw’r bartneriaeth gyda Chymdeithas Tai Clwyd Alun ag “elfen ychwanegol” wrth ddatblygu tai newydd fydd yn cynnig gofal am oes i drigolion.

Bydd y cartref wedi ei leoli yn Llanbedrog yn ardal Penrhos ble roedd cartref gofal yn arfer cael ei redeg gan y gymuned Bwyleg.

Caewyd y safle gwreiddiol yn 2020 oherwydd gostyngiad mewn defnyddwyr a’r angen i fuddsoddi mewn gwella’r adnoddau.

Yn y safle newydd bydd 32 o welyau preswyl dementia a 25 o welyau nyrsio gyda 15 ohonynt yn blaenoriaethu cefnogaeth gofal dementia.