Mae ymgyrchwyr a phobol leol wedi cyhuddo Cyngor Merthyr Tudful o beidio â stopio cwmni rhag cloddio mewn pwll glo yn yr ardal.

Daeth y cais cynllunio ar gyfer pwll glo Ffos-y-fran i ben ar Fedi 6 2022, ond mae’r cwmni Merthyr [South Wales] Ltd, wedi anwybyddu hynny a pharhau i gloddio dros 100,000 tunnell o lo ar ôl hynny, yn ôl ystadegau swyddogol yr Awdurdod Glo.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful newydd gyfaddef hynny hefyd, er eu bod nhw wedi cael gwybod gan drigolion lleol ar Fedi 12 2022 bod y cloddio’n parhau yno.

Ar ôl dweud wrth y Cyngor ym mis Medi, derbyniodd Chris ac Alyson Austin e-bost yn ôl yn dweud bod y cais cynllunio wedi dod i ben ar Fedi 6, ac yna e-bost arall yn nodi y byddan nhw’n “parhau i fonitro’r gweithgarwch ar y safle”.

Dros y chwe mis wedyn, fe wnaeth trigolion lleol yrru adroddiadau bod y cloddio’n parhau, a thynnu lluniau o lorïau’n llawn glo’n gadael y safle, i’r Cyngor.

Er hynny, e-bostiodd Swyddog Achos y Cyngor y Rhwydwaith Gweithredu Glo ym mis Ionawr 2023 yn dweud: “Fy nealltwriaeth i yw bod y cloddio am lo wedi stopio ar y safle ar hyn o bryd… Dw i wedi bod mewn cysylltiad gyda Merthyr South Wales Ltd yr wythnos hon am ddiweddariad ar eu gweithgarwch ar y safle. Dw i wedi cael gwybod eu bod nhw dal i weithio ar ddeunydd oedd wedi llithro.”

‘Rhaid dod â’r cloddio i ben’

Ond mae Chris ac Alyssa Austin, sy’n byw yn lleol, yn teimlo’u bod nhw wedi cael eu gadael lawr gan y llywodraeth leol.

“Maen nhw wedi caniatáu i’r cwmni fynd yn groes i’w caniatâd cynllunio presennol am bron i saith mis er gwaethaf ein protestiadau a’r dystiolaeth gennym ni,” meddai’r ddau mewn datganiad ar y cyd.

“Rhaid i’r cloddio yn Ffos-y-fran ddod i ben nawr ac mae’n rhaid i’r cwmni gael eu dal yn atebol am eu troseddau.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru ymchwilio i’r ffordd mae hyn wedi cael ei gamreoli gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol yma ym Merthyr a sicrhau nad yw’n digwydd eto.”

‘Gwyrddgalchu’

Fel rhywun o Ferthyr, dywedodd Bethan Sayed, ar ran Climate Cymru, ei bod hi’n deall sut mae’r pwll glo agored wedi bod yn “boen” i’r gymuned.

“Mae pobol wedi cael eu gorfodi i ddod yn ymgyrchwyr proffesiynol er mwyn gwrthwynebu’r ymestyniadau niferus yn y pwll glo, ac mae hynny wedi effeithio ar eu bywydau wrth iddyn nhw dderbyn beirniadaeth a chamdriniaeth – a hynny gan eu bod nhw eisiau i’w tir gael ei adfer fel yr addawyd iddyn nhw’n wreiddiol pan ffurfiwyd Ffos-y-fran.”

Bethan Sayed yw Cydlynydd Ymgyrch Cynnes Gaeaf Yma Climate Cymru, ymgyrch sy’n galw am roi stop ar y defnydd o danwydd ffosil yng Nghymru.

“Os yw Llywodraeth Cymru a’u partneriaid o ddifrif ynglŷn â’r argyfwng hinsawdd, symud at Net Sero, yna mae’n rhaid iddyn nhw roi stop ar unrhyw waith cloddio yn y dyfodol yng Nghymru.

“Fel arall, maen nhw’n gwyrddgalchu, dydyn nhw ddim yn gweithredu ar addewidion, a rhaid eu dal nhw’n atebol.”

‘Wedi rhoi cyfarwyddyd’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi rhoi cyfarwyddyd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

“Heb awdurdod Gweinidogion Cymru, mae’r cyfarwyddyd yn atal y Cyngor rhag rhoi caniatâd cynllunio i’r cais presennol ymestyn y cyfnod cloddio ar safle Ffos-y-fran.

“Mae gan awdurdodau cynllunio lleol bwerau i ymchwilio i honiadau ynglŷn â datblygiadau anawdurdodedig a nhw sy’n gyfrifol, yn y lle cyntaf, dros ystyried gweithredu i orfodi’r amodau.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Merthyr Tudful am ymateb.