Mae rhai o wleidyddion Cymru wedi beirniadu trydariad gan Blaid Lafur y Deyrnas Unedig sy’n dweud nad yw Rishi Sunak yn meddwl y dylai oedolion sy’n cael eu canfod yn euog o ymosod ar blant yn rhywiol fynd i’r carchar.
Cafodd yr hysbyseb ei gyhoeddi ddoe (Ebrill 6), ac mae wedi cael ei feirniadu’n hallt gan y gwrthbleidiau, ynghyd â gan rai o aelodau’r Blaid Lafur.
Mae aelodau o’r Blaid Lafur yn yr Alban wedi’i gondemnio, ond hyd yn hyn dydy hi ddim yn ymddangos bod yr un aelod o’r Blaid Lafur yng Nghymru wedi gwneud hynny.
Fodd bynnag, mae arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Llafur Andrew Morgan wedi dweud bod y blaid yn well na hynny ac wedi galw arnyn nhw i beidio â gostwng i’r “un lefel ag eraill”.
Yr hysbyseb
Wrth bostio’r hysbyseb ar Twitter, defnyddiodd y Blaid Lafur y neges: “Llafur yw plaid cyfraith a threfn.”
Ar waelod y poster, dywed hefyd: “Dan y Torïaid, dydy 4,500 o oedolion sydd wedi’u canfod yn euog o ymosod yn rhywiol ar blant dan 16 oed heb dreulio amser yn y carchar.
“Bydd Llafur yn rhoi pobol beryglus sy’n ymosod ar blant dan glo.”
Mae’r hysbyseb wedi’i gyhoeddi fel rhan o’r ymgyrchu cyn etholiadau lleol Lloegr fis nesaf, ac mae’n ymddangos bod y data yn dod o ymchwil gan Lafur gafodd ei gyhoeddi’n gynharach yr wythnos hon.
Roedd y data’n dweud bod mwy na 4,000 o droseddwyr oedd wedi ymosod ar blant yn rhywiol wedi osgoi carchar ers 2010, pan ddaeth y Ceidwadwyr i rym.
Labour is the party of law and order. pic.twitter.com/EP6VXToK9z
— The Labour Party (@UKLabour) April 6, 2023
‘Ofnadwy’
Dywedodd yr Aelod o’r Senedd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, fod yr hysbyseb yn “ofnadwy”.
“Da gweld aelodau o Blaid Lafur yr Alban yn ei gondemnio. Heb weld aelodau Llafur Cymru’n ei feirniadu eto.
“Yn synnu ei fod dal fyny.
“Dilëwch e.”
‘System gyfiawnder fethedig’
Wrth siarad â BBC Breakfast fore heddiw, fe wnaeth ysgrifennydd diwylliant y Blaid Lafur, Lucy Powell, wrthod dweud a oedd hi’n cytuno â’r honiad sy’n cael ei wneud yn yr hysbyseb ai peidio.
“Dw i yn sefyll gyda’r hyn mae’r llun yn trio’i ddangos, sef bod prif weinidog ein gwlad yn gyfrifol am system gyfiawnder ein gwlad – ac ar y funud dydy’r system gyfiawnder ddim yn gweithio.”