Mae fferm solar gyntaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael ei throi ymlaen yng Nghaerfyrddin yr wythnos hon.

Ynghyd â darparu trydan cynaliadwy i bweru gwasanaethau cleifion a gweinyddol ar safle Hafan Derwen y bwrdd iechyd ym Mharc Dewi Sant, mae’r paneli solar yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon yr ardal.

Bydd tua 52% o’r trydan fydd yn cael ei gynhyrchu’n cael ei ddefnyddio ar y safle, tra bo’r gweddill yn cael ei allforio.

Yn ôl yr amcangyfrifon, bydd y datblygiad yn arwain at arbed 110 tunnell o Garbon Deuocsid Cyfwerth, ac yn cynhyrchu tua 474,000 KWhrs o drydan y flwyddyn.

Fel rhan o’r datblygiad, sydd ar ychydig dros erw o dir, mae bioamrywiaeth y safle wedi’i wella i ddarparu mynediad i fannau gwyrdd naturiol i gleifion a staff.

Mae coed ffrwythau a thros 350 o fylbiau blodau gwyllt wedi’u plannu a byddan nhw’n darparu cynefin ychwanegol i fywyd gwyllt.

‘O fudd i’r amgylchedd a’r gymuned’

Dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Strategol a Chynllunio Gweithredol yn Bwrdd Iechyd Hywel Dda, bod y prosiect yn “dangos ymrwymiad” y bwrdd i wella amgylchedd naturiol a mynediad i fannau gwyrdd hefyd.

“Mae’r prosiect hwn hefyd yn dangos ymrwymiad y bwrdd iechyd i wella’r amgylchedd naturiol a mynediad i fannau gwyrdd.

“Mae creu man gwyrdd yn fenter wych sy’n rhoi man awyr agored i staff a chleifion i fwynhau a dysgu am yr amgylchedd lleol.

“Bydd plannu coed ffrwythau a bylbiau blodau gwyllt nid yn unig yn gwella’r ardal yn weledol, ond hefyd yn darparu cynefin i fywyd gwyllt, gan gyfrannu at gadwraeth yr ecosystem leol.

“Ar y cyfan, mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o sut y gall arferion ynni cynaliadwy fod o fudd i’r amgylchedd a chymunedau lleol.”