Mae Llys Rhosyr ar Ynys Môn, sef llys pwysig i Dywysogion Gwynedd yn yr oesoedd canol, wedi dod dan feddiant Cadw.

Wedi’i leoli ger Niwbwrch, Llys Rhosyr yw unig Lys Tywysogion Cymru yng Nghymru sydd ag olion i’w gweld ac sy’n agored i’r cyhoedd ymweld ag ef.

Mae Cadw bellach wedi’i ddynodi yn heneb gofrestredig rhif 131 a bydd yn cael ei warchod ganddyn nhw.

Dan feddiant gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, bydd hanes y safle arwyddocaol yn cael ei gadw a’i warchod ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.

Er bod safleoedd llysoedd eraill yn hysbys o ddogfennau neu wedi eu hawgrymu yn rhai yn sgil proses o gloddio rhannol, Llys Rhosyr yw unig Lys Tywysogion Cymru nas amddiffynnwyd sydd wedi’i gadarnhau drwy gloddio archeolegol.

‘Hynod o falch’

Gwnaeth Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â Llys Llewelyn yn Sain Ffagan, Amgueddfa Cymru heddiw (Ebrill 8).

Mae dau o adeiladau’r llys o Lys Rhosyr wedi eu hail-greu yn Sain Ffagan fel Llys Llewelyn, ac yn enghreifftiau o archaeoleg arbrofol sy’n cyflwyno pobol i fyd Cymru’r oesoedd canol.

“Rwy’n hynod o falch ein bod wedi gallu prynu’r safle arwyddocaol hwn yn hanes Cymru,” meddai Dawn Bowden.

“Bydd Cadw nawr yn bwrw ati â’r gwaith er mwyn sicrhau bod y safle yn cael ei warchod yn iawn a bod modd i bawb ymweld ag ef a’i werthfawrogi.

“Mae ymweld â Llys Llywelyn yn Sain Ffagan wedi rhoi cipolwg hynod o ddiddorol o ran naws a golwg y safle gwreiddiol ym Môn – a pha mor bwysig oedd y safle i hanes Cymru.

“Ac wrth gwrs, mae gan wir safle Llys Rhosyr bosibiliadau archeolegol mawr yn ogystal â naws bwysig am le gyda golygfeydd tuag allan ar hyd y Fenai a thuag at fynyddoedd Eryri.

“Manteisiodd Tywysogion Gwynedd ar y rhain yn ystod ymosodiadau.”

Dod â’r Oesoedd Canol yn fyw

Dywedodd Nia Williams, Cyfarwyddwr Dysgu a Rhaglenni Cyhoeddus: “Adeiladwyd Llys Llywelyn fel rhan o ailddatblygiad Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

“Mae’n dod â phrofiad llys Brenhinol Tywysogion Gwynedd yn fyw i’n hymwelwyr.

“Mae’n adeilad poblogaidd ac fe’i defnyddir ar gyfer llawer o ddigwyddiadau megis gigs cerddoriaeth, gwleddoedd canoloesol ac aros dros nos.

“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Chadw a pharhau gyda’r berthynas rhwng cymuned leol Llys Rhosyr ar Ynys Môn ac ailgread y Llys yma yn Sain Ffagan.”