Ar benwythnos y Pasg, mae Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, wedi annog pennaeth yr Eglwys Uniongred yn Rwsia i ddefnyddio’i ddylanwad i ysgogi cadoediad yn y rhyfel yn Wcráin.
Mewn llythyr at y Patriarch Kirill mae’r Parchedig Beti-Wyn James yn galw arno i ystyried yn ddwys “oferedd y dinistr a’r lladdfa o filwyr a phobol ddiniwed sy’n achosi dioddefaint a galar yn y ddwy wlad”.
‘Cadoediad allai roi cyfle i agor trafodaethau heddwch’
Yn y llythyr, dywed y Parchedig Beti-Wyn James:
“At ein brawd yng Nghrist, y Sanctaidd Kirill, Patriarch Moscow a holl Rwsia.
“Cyfarchion oddi wrth eich cyd-Gristnogion yng Nghymru, sy’n gweddïo’n ddi-baid dros bawb sy’n dioddef yn y gwrthdaro rhwng Rwsia a Wcráin.
“Rydym yn ymwybodol o deyrngarwch yr Eglwys Uniongred yn Rwsia i lywodraeth eich gwlad, a’ch awydd i ailfeddiannu Kyiv fel man geni Cristnogaeth cenedl y Rws.
“Gwyddom hefyd nad ydych yn cydnabod ein traddodiad ni fel Protestaniaid.
“Ond yr un yw ein Duw, ac yn enw Iesu Grist, Tywysog Tangnefedd, rydym yn apelio arnoch i ddwys ystyried oferedd y dinistr a’r lladdfa ofnadwy o filwyr a phobl ddiniwed sy’n achosi’r fath ddioddefaint a galar yn y ddwy wlad.
“Rydym hefyd yn pryderu’n fawr y gallai’r gwrthdaro yn Wcráin droi’n rhyfel ehangach rhwng Rwsia a gwledydd y gorllewin.
“Byddai’r fath ryfel rhwng gwledydd cred y tu hwnt i bob tristwch, yn ogystal â bod yn fygythiad posib i bawb ar y blaned hon.
“Fel eich cyd-Gristnogion yng Nghymru rydym yn apelio’n daer arnoch i ddefnyddio eich dylanwad aruthrol i ysgogi cadoediad yn yr ymladd rhwng Rwsia a Wcráin – cadoediad allai roi cyfle i agor trafodaethau heddwch.
“Yr eiddoch yng Nghrist, yr hwn aeth i’r groes ar Galfaria drosoch chi a fi, a phawb arall.”