Pan gyhoeddodd Netflix ym mis Ionawr eu bod nhw am ffrydio’u cyfres ddrama gyntaf yn Gymraeg, roedd yr ymateb i’r newyddion yn bositif drwyddi draw yn y cyfryngau.

Fe wnaeth y cewri ffrydio brynu’r drwydded ar gyfer Dal y Mellt – neu ‘Catch the Lightning’ i fod yn fanwl gywir – gan S4C.

Wedi’i haddasu o nofel gan Iwan ‘Iwcs’ Roberts, mae’r gyfres chwe rhan gyffrous, afaelgar yn dilyn criw o fisffitiaid wrth iddyn nhw ddod ynghyd i ladrata diemwntiaid.

A hithau wedi bod ar gael ar S4C a BBC iPlayer o dan ei henw Cymraeg, mae’r gyfres bellach wedi cael yr enw Rough Cut ar gyfer Netflix, ac mae’n cael ei ffrydio ar gyfer cynulleidfaoedd ledled y Deyrnas Unedig gydag is-deitlau Saesneg o Ebrill 10 eleni.

O ystyried y pryderon dros y blynyddoedd diwethaf ynghylch dirywiad cynyrchiadau sydd heb fod yn yr iaith Saesneg mewn sinemâu yn y Deyrnas Unedig, mae hwn yn gam pwysig.

The words Dal y Mellt appear in bold set against a sunset.
Wedi’i darlledu’n wreiddiol ar S4C a BBC iPlayer, mae Dal y Mellt wedi cael yr enw Rough Cut ar gyfer Netflix (Llun: S4C)

Mae “Nordic Noir” wedi braenaru’r tir ar gyfer drama ag is-deitlau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r genre Scandinafaidd tywyll wedi cynyddu mewn poblogrwydd ar draws y byd ers canol y 1990au. Ac mae dramâu trosedd megis Wallander, Forbrydelsen (The Killing) a Bron (The Bridge) wedi gosod y cywair ar gyfer cynyrchiadau megis Rough Cut. Mae’r cyfyniad o genre sy’n gwbl adnabyddus a synnwyr penodol o le wedi profi’n fformiwla buddugol i’w allforio ar draws y byd.

Mae ieithoedd lleiafrifedig eraill wedi defnyddio genre tebyg ers 2010 hefyd. Cafodd y ddwy gyfres Wyddeleg, Corp & Anam ac An Bronntanas, eu cynhyrchu gan TG4, y sianel deledu gwasanaeth cyhoeddus Wyddelig, tra bod Bannan, cynhyrchiad trwy gyfrwng Gaeleg yr Alban, wedi’i chreu gan BBC Alba.

Pan gafodd y ddrama dditectif dywyll Gymreig, Hinterland ei ffilmio, cafodd ei saethu gefn-wrth-gefn yn Gymraeg a Saesneg. Cafodd y fersiwn Saesneg (gyda phytiau o ddeialog yn Gymraeg) ei darlledu ar y BBC, tra bod y fersiwn Gymraeg wedi’i dangos ar S4C. Ac fe barhaodd y duedd eithaf dadleuol hwnnw gyda dramâu mwy diweddar fel Hidden (Craith) a Keeping Faith (Un Bore Mercher) y BBC ac A Light in the Hall (Y Golau) ar Channel 4.

Ond mae yna rywbeth unigryw am Rough Cut oherwydd nad oes fersiwn Saesneg, ond yn hytrach un cynhyrchiad yn y Gymraeg. Mae hyn yn awgrymu hyder cynyddol mewn cynyrchiadau Cymraeg. Mae’r darlun hwnnw ymhell o’r 1990au cynnar pan gafodd ffilm Gymraeg ei henwebu ar gyfer Oscar, a wnaeth Hedd Wyn ddim cael ei chyhoeddi’n sinematig yng Nghymru na’r Deyrnas Unedig, hyd yn oed.

Yn ddiweddar, mae llwyddiant prif ffrwd cynyrchiadau sydd heb fod yn Saesneg megis An Cailín Ciúin (The Quiet Girl), All Quiet on the Western Front a Squid Game yn awgrymu newid bach mewn agweddau tuag at gynnwys ag is-deitlau. Yr olaf ohonyn nhw oedd ffilm fwyaf poblogaidd Netflix hyd yn hyn yn 2021.

Parasite, y ddrama ddirgel o Corea, oedd y ffilm gyntaf sydd heb fod yn Saesneg i ennill y Wobr Academi ar gyfer y llun gorau yn 2020. A phan dderbyniodd ei Golden Globe am y ffilm iaith dramor orau, dywedodd Bong Joon-ho, cyfarwyddwr Parasite,  “unwaith rydych chi wedi goresgyn is-deitlau, y rhwystr modfedd o daldra, cewch eich cyflwyno i gynifer yn rhagor o ffilmiau anhygoel”.

Trêl swyddogol S4C ar gyfer Dal y Mellt

All hyn oll ond fod yn newyddion da ar gyfer unrhyw gynyrchiadau Cymraeg yn y dyfodol. Dywed S4C eu bod nhw’n awyddus i weld dramâu Cymraeg yn “sefyll ochr yn ochr â gweddill y byd”.

Wedi’r cyfan, fe fu twf syfrdanol mewn cynnwys byd-eang o fewn y byd ffrydio hynod gystadleuol. Ac mae hynny wedi’i gyplysu â thrawsnewidiad radical o ran arferion gwylio, sydd wedi arwain at ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn gorfod cyfiawnhau eu bodolaeth ymhellach.

Mae pen-blwydd diweddar S4C yn 40 oed wedi bod yn gyfle i ailymweld â’i hanes a’i phwrpas. Ar gyfnod prawf cychwynnol o dair blynedd, roedd yn un o bedair sianel yn unig oedd yn cynnig gwasanaeth cyfyngedig yn ystod oriau brig. Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, mae’n ddarlledwr aml-blatfform. Mae’n cynnig mwy na 115 o oriau o raglenni bob wythnos, gyda’r chwyldro digidol yn golygu bod potensial byd-eang i allbwn y sianel erbyn hyn.

O ran Rough Cut ar Netflix, mae’r ystadegau’n eithaf difrifol. Wedi’i ffrydio fel bocs-set ar BBC iPlayer, roedd iddi botensial gartref i gyrraedd oddeutu 28.3m o gartrefi. Yn y cyfamser, amcangyfrifir bod gan 231m o aelwydydd ledled y byd danysgrifiad i Netflix. Er gwaethaf honiad uchelgeisiol Netflix eu bod nhw’n gobeithio chwarae rhan wrth helpu i “hybu a chynnal yr iaith Gymraeg”, gafodd ei leisio ym mhwyllgor materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin, mae hynny eto i’w brofi.

Ond i’w cynulleidfaoedd, mae Rough Cut neu Dal y Mellt yn darlunio’r Gymraeg fel iaith gymunedol gyfoethog a bywiog, gyda’i naratif yn mapio ac yn arddangos gwahanol rannau o Gymru.The Conversation