Mae disgyblion un ysgol gynradd yn y gogledd wedi codi dros £7,000 at apêl daeargryn Syria a Thwrci.

Daeth y syniad ar ôl i aelodau o Gyngor Ysgol Awel y Mynydd yng Nghyffordd Llandudno glywed bod rhai teuluoedd o fewn yr ysgol a’u cymuned wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan y trychineb.

Bu pawb yn yr ysgol yn cerdded teithiau o gwmpas yr ysgol a’r dalgylch, a thrwy gael eu noddi fe wnaethon nhw lwyddo i godi £7,290.

Mae bron i ddeufis wedi mynd heibio ers y daeargrynfeydd sydd wedi effeithio dros 24.4 miliwn o bobol yn y ddwy wlad, gan gynnwys 6.2 miliwn o blant.

‘Cymaint o fentergarwch’

Dywedodd Pennaeth yr ysgol, Mr Geraint Evans, eu bod nhw’n hynod falch o bawb sydd wedi bod ynghlwm yn “dangos cymaint o fentergarwch a meddylgarwch tuag at eraill”.

“Roeddem yn awyddus iawn i godi arian i gefnogi gwaith Achub y Plant ar lawr gwlad yn Nhwrci a Syria, ac rydym yn hynod ddiolchgar i bawb sydd wedi mynd ati i gyfrannu arian.”

Ychwanegodd aelod o’r Cyngor Ysgol: “Fe welon ni’r lluniau a’r fideos o’r dinistr roedd y daeargryn wedi ei greu ar raglen Newsround ac yna fe glywon ni fod teuluoedd yn ein hysgol wedi cael eu heffeithio.

“Fe wnaethon ni ofyn i’n pennaeth a’n hathrawon a allen ni wneud rhywbeth i helpu ac roedden ni’n meddwl y byddai’n syniad gwych i drefnu teithiau cerdded noddedig.

“Fe wnaethon ni weithio’n galed i drefnu pethau yn gyflym a dydyn ni ddim yn gallu credu faint rydyn ni wedi gallu ei godi a gobeithiwn y bydd yn helpu plant a theuluoedd yn Nhwrci a Syria.

“Rydyn ni eisiau diolch i bawb am eu caredigrwydd.”

‘Cymaint o haelioni’

Mae Achub y Plant, drwy bartneriaid lleol, yn cynnig cymorth dyngarol yn Nhwrci a Syria, gan gefnogi teuluoedd a phlant yn rhan o’r ardaloedd sydd wedi’u heffeithio waethaf yn y ddwy wlad.

“Unwaith eto rydym wedi gweld pobol Cymru yn dangos cymaint o haelioni a’r awydd i helpu’r rhai sydd wedi eu heffeithio gan yr argyfwng yma yn Nhwrci a Syria.

“Drwy gyfrannu £10 gallwn helpu i gadw dau berson yn gynnes, mae £25 yn ddigon i fwydo teulu am ddeng niwrnod a gall £50 dalu am loches ar frys i ddau deulu.”