Bydd £3.3m ychwanegol yn cael ei roi i gefnogi’r gwaith o sicrhau gweithlu iechyd meddwl cynaliadwy.

Fe fydd yr arian gan Lywodraeth Cymru’n mynd tuag at weithredu Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol yn 2023-24.

Mae’r cynllun yn nodi 33 o gamau gweithredu i helpu er mwyn sicrhau gweithlu cynaliadwy, gan wella gwasanaethau atal ac ymyrraeth gynnar.

Nod arall ydy lleihau’r pwysau ar wasanaethau i bobol ag anghenion iechyd meddwl difrifol, a chafodd ei ddatblygu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru’r llynedd.

Dywed Alex Howells, Prif Weithredwr Addysg a Gwella Iechyd Cymru, eu bod nhw’n croesawu’r cyllid.

“Rydym yn croesawu’r cyhoeddiad hwn am gyllid, fel y gallwn symud i gyfnod newydd o waith, gan weithredu ein camau arfaethedig ochr yn ochr â Gofal Cymdeithasol Cymru, a fydd yn ein helpu i gefnogi ein gweithlu iechyd meddwl hollbwysig,” meddai.

‘Her allweddol’

Mae materion yn ymwneud â’r gweithlu yn “dal i fod yn her allweddol i wasanaethau iechyd meddwl”, yn ôl Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru.

“Mae gennym weithlu iechyd meddwl medrus iawn yma yng Nghymru, sy’n hanfodol i ddiwallu anghenion iechyd meddwl pobol,” meddai Lynne Neagle.

“Nod y cynllun hwn yw helpu i sicrhau gweithlu cynaliadwy ac amrywiol i ymateb i’r heriau hynny.

“Rwy’n croesawu gwaith Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu’r cynllun uchelgeisiol hwn.

“Rydyn ni’n ymrwymo’r cyllid i helpu i sicrhau bod y cynllun yn cael ei roi ar waith fel rhan o’n buddsoddiad ehangach a pharhaus i gefnogi iechyd meddwl a llesiant.”