Mae un o gynghorwyr Plaid Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad y bydd yr ymgynghoriad sydd ar y gweill i ddyfodol y gwasanaeth ambiwlans awyr yn y canolbarth a’r gogledd yn rhoi ystyriaeth lawn i gynnig gan Blaid Cymru.
Daw hyn yn dilyn cyfarfod â Stephen Harry, Prif Gomisiynydd y Gwasanaeth Ambiwlans, yr wythnos ddiwethaf, pan gafodd achub y gwasanaeth yn y Trallwng a Chaernarfon ei drafod.
Cyflwynodd Elwyn Vaughan gynnig amgen i’r un fis Rhagfyr y llynedd oedd yn awgrymu cau’r ddwy ganolfan, gan bwysleisio’r angen i gadw’r ddwy ar agor ar eu safleoedd presennol ond gan ychwanegu un Cerbyd Ymateb Chwim at y gwasanaeth yn y gogledd-ddwyrain.
Y cynnig
Yn ei gynnig, dywedodd Elwyn Vaughan fod Plaid Cymru am gyflwyno “gwrth-gynnig i’w ystyried”.
Ei gynnig oedd fod “canolfannau’r Trallwng a Chaernarfon yn cael eu trin fel un uned waith, wedi’i chadw yn ei lle gan hollti shifftiau fel gafodd ei gynnig yn Rhuddlan”.
Yn ôl y cynghorydd, byddai hynny’n golygu gallu staff ychwanegol ddydd a nos a hefyd yn “helpu’r gwasanaeth i ddiwallu’r angen sydd heb ei ateb yn y gogledd-ddwyrain” drwy fynd â cherbyd ychwanegol i ardal Wrecsam.
Dywedodd y gallai’r cynnig hwn gyrraedd 600 yn rhagor o alwadau bob blwyddyn, a 300 ohonyn nhw yn y cerbyd newydd.
Byddai hefyd yn achub 100 ohonyn nhw yn sgil y cynnig yn Rhuddlan, a 200 ychwanegol yn sgil yr oriau gwaith ychwanegol o ganlyniad i hollti’r shifftiau.
“Nid yn unig y byddai hyn yn achub ein cymunedau gwledig, yn rhoi gwell gwasanaeth drwy ganolbarth a gogledd Cymru ond hefyd yn achub bywydau,” meddai.
“Mae’n hanfodol fod y gwasanaeth yn parhau i gael ei leoli yng nghanolbarth Cymru er mwyn gwasanaethu canolbarth Cymru.
“Mae’r gwrth-gynnig hwn gennym ni’n ffordd bositif o sicrhau darpariaeth gwasanaeth estynedig yn y gogledd-ddwyrain.
“Mae hi’n hanfodol, felly, fod cynifer o bobol â phosib yn mynychu’r cyfarfodydd cyhoeddus i ddod ar ddyfodol y gwasanaeth ac yn codi’n lleisiau’n glir er mwyn ein cymunedau.”