Yn Gaiman, mae’r achos llys cyntaf gyda rheithgor wedi’i gynnal am y tro cyntaf ers 140 o flynyddoedd, gan adfer arfer y mewnfudwyr cyntaf o Gymru ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ym mhentref Gaiman, cartref y diwylliant Cymreig yn Chubut, cafodd yr achos cyntaf gyda rheithwyr ei gynnal, a ddeilliodd o greu cyfraith taleithiol XV N° 30, gan adfer system a gafodd ei defnyddio gan y mewnfudwyr Cymreig a ddaethant i fyw yn yr ardal hon o Batagonia yn hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn ystod tridiau, clywodd y rheithgor cyffredin o chwe gwraig a chwe dyn yr achos yn erbyn dyn ifanc oedd wedi’i gyhuddo o lofruddio gan ddefnyddio dryll, mewn trosedd a ddigwyddodd ym mis Chwefror 2022 yn Nhrelew, prifddinas y rhanbarth cyfreithiol.

Cafodd yr achos ei gynnal yn neuadd Cymdeithas Sbaeneg Gaiman ac, ar ôl clywed yr honiadau o’r ddwy ochr, trafododd aelodau’r rheithgor am bron i dair awr cyn cyhoeddi’r penderfyniad o euogrwydd o ran y cyhuddiedig, sydd rŵan yn aros am gyfarfod fydd yn ei ddedfrydu.

Cymeradwyaeth sefydliadol

Yn yr oriau cyn yr achos, yn Neuadd Cyngor Gaiman, cafodd seremoni swyddogol ei chynnal lle talwyd teyrnged i’r pentref ac i Gyngor Gaiman gan awdurdodau pennaf Bwrdd Uchaf y Llys yn Chubut, am eu cydweithrediad wrth roi cychwyn i’r system.

Dywedodd Dr. Mario Luis Vivas, Cadeirydd y STJ, bod “y mewnfudwyr Cymraeg cyntaf yn arloeswyr yn nhrefniant y gyfraith trwy gael rheithgor cyffredin”.

Pan anfonodd y llywodraeth genedlaethol yr awdurdodau cyntaf i’r ardal, degawd bron ar ôl i’r Cymry gyrraedd, roedd ganddyn nhw adroddiadau a ddywedodd fod gan y gymuned Gymreig ar lannau afon Camwy Farnwr, Cyngor y Dref a’u bod nhw wedi sefydlu system y gyfraith gyda rheithwyr yn barod, meddai.

Tanlinellodd Vivas ei bod yn hysbys bod gan Amgueddfa Gaiman ran helaeth yr hanes, er enghraifft llyfr cofnodion bwrdd y rheithwyr a oedd yn gweithredu trwy ran fwya’r 1870au yn Nyffryn Camwy, ac am hynny cafodd cymuned Gaiman ei dewis er mwyn datblygu’r achos cyntaf.

Diolchodd maer y dref, Darío James, am y geiriau ac am y plac sy’n dangos cydnabyddiaeth i’r gymuned mewn seremoni lle roedd Dra. Camila Banfi Saavedra, Cadeirydd Adran Penydiol y STJ, fydd yn symud i fod yn gadeirydd llys y dalaith ym mis Ebrill eleni.

Hefyd roedd yr Amddiffynydd Cyffredinol, Dr. Sebastián Daroca yno.