Mae Mark Drakeford yn dweud bod Cytundeb Gwener y Groglith, gafodd ei lofnodi union chwarter canrif yn ôl, “yn dyst i’r gwaith a wnaed gan gynifer i oresgyn rhwystrau i greu dyfodol gwell i bawb”.

Y cytundeb gafodd ei lofnodi ar Ebrill 10, 1998 oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu’r Broses Heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

Chwarter canrif yn ddiweddarach, mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yn dweud bod rhaid parhau i ymdrechu i adfer y weinyddiaeth sy’n llywodraethu’r wlad erbyn hyn.

Bu farw dros 3,600 o bobol yn y Trafferthion dros gyfnod o dri degawd, ac mae’r wlad wedi byw mewn cyfnod heddychlon i raddau helaeth ers hynny.

Ond fe fu tensiynau unwaith eto ers i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd fel rhan o’r cytundeb Brexit, gyda’r DUP yn grac ynghylch y rheolau masnach gwahanol ar waith yng Ngogledd Iwerddon o’u cymharu â gweddill y Deyrnas Unedig.

Dyna sydd wedi arwain at foicot o’r llywodraeth dros y flwyddyn ddiwethaf, sydd wedi creu cryn ansefydlogrwydd gwleidyddol yn y wlad.

Mae MI5, asiantaeth gudd-wybodaeth y Deyrnas Unedig, wedi codi lefel y bygythiad o drais yng Ngogledd Iwerddon i’w lefel uchaf o ganlyniad i’r pryderon ynghylch Brexit.

Mae Leo Varadkar, Prif Weinidog Iwerddon, wedi addo cydweithio â Rishi Sunak i geisio ateb i’r anghydfod diweddaraf.

Mae disgwyl i Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, hedfan i Ogledd Iwerddon yr wythnos hon i nodi’r achlysur, wrth i Rishi Sunak gydnabod rôl yr Unol Daleithiau wrth sicrhau heddwch.

Beth yw Cytundeb Gwener y Groglith?

Caiff Cytundeb Gwener y Groglith ei adnabod fel Cytundeb Belfast hefyd.

Ei fwriad oedd dod â’r Trafferthion a 30 mlynedd o ymladd i ben yng Ngogledd Iwerddon.

Cafodd ei lofnodi ar Ebrill 10, 1998, a’i gymeradwyo mewn refferenda yng Ngogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.

Yn greiddiol i’r Cytundeb mae’r egwyddor o gydweithio cymunedol.

Yn rhan o’r cytundeb, cafodd llywodraeth newydd ei sefydlu i gynrychioli dwy garfan o bobol oedd wedi bod ar wahân ac yn anghydweld ers degawdau.

Cafodd y llywodraeth newydd rymoedd datganoledig arbennig i ofalu am feysydd allweddol, gan gynnwys addysg ac iechyd.

Cafodd Cynulliad Gogledd Iwerddon ei sefydlu yn Stormont yn ninas Belfast.

Mae’r cytundeb yn nodi mai dim ond trwy refferendwm y gall Gogledd Iwerddon adael y Deyrnas Unedig.

Gall trigolion Gogledd Iwerddon dderbyn cenedligrwydd Prydeinig neu Wyddelig yn sgil y cytundeb.

O safbwynt milwrol, roedd cytundeb i waredu arfau ac i ryddhau carcharorion, a chytunodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i adael y wlad fesul dipyn, gan ddychwelyd i “drefniadau diogelwch arferol”.

Beth oedd y Trafferthion?

Cafodd Gogledd Iwerddon ei sefydlu fel gwlad yn 1921, gan aros yn y Deyrnas Unedig tra bod gweddill y wlad wedi dod yn Weriniaeth ac yn wlad annibynnol.

Achosodd hyn rwyg rhwng y rhai oedd o blaid yr Undeb a’r cenedlaetholwyr oedd am weld gwlad newydd yn cael ei sefydlu.

Erbyn y 1960au, roedd cryn wrthdaro rhwng y ddwy ochr, gan arwain at gyrchoedd bomio a saethu a bu’n rhaid i luoedd y Deyrnas Unedig geisio adfer heddwch yno.