Mae trigolion Llangennech yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar gynlluniau posibl i atal llifogydd yn y pentref a’r gymuned gyfagos.

Mae prosiect a gefnogir gan Lywodraeth Cymru yn mynd rhagddo i ymchwilio i’r perygl o lifogydd yn Llangennech nawr ac yn y dyfodol, i asesu’r opsiynau ar gyfer lliniaru llifogydd posibl i leihau’r perygl o lifogydd i drigolion yn y pentref, ac i ymchwilio i ddulliau cyllido ar gyfer y cynllun yn y dyfodol.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynllunio digwyddiad ymgynghori wyneb yn wyneb gyda thrigolion, busnesau a rhanddeiliaid yn Llangennech ddydd Mercher, Ebrill 19 rhwng 2yp a 7yh yn y Ganolfan Gymunedol leol.

Bydd swyddogion o Dîm Amddiffyn rhag Llifogydd a Diogelu’r Arfordir y Cyngor ac WSP Consultants ar gael drwy gydol y sesiwn i ateb unrhyw ymholiadau.

Mae Tîm y Prosiect am ddeall yr effaith mae llifogydd yn ei chael ar y gymuned, ac asesu gwahanol fesurau atal llifogydd posibl fydd yn lleihau’r effaith yn ystod tywydd cynyddol stormus yn y dyfodol.

Bydd aelodau’r cyhoedd yn gallu cyflwyno eu sylwadau a’u hadborth yn bersonol i Dîm y Prosiect ar y diwrnod, neu drwy ysgrifennu eu sylwadau a’u gadael mewn blwch fydd ar gael yn y lleoliad.

Bydd adborth o’r digwyddiad yn bwydo i mewn i’r cam nesaf o’r gwaith ac yn ffurfio rhan o unrhyw benderfyniadau y bydd Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i ddylunio a gweithredu unrhyw gynllun i leihau’r perygl o lifogydd.

“Byddwn yn cynnal digwyddiad ymgynghori yn Llangennech i drafod lliniaru llifogydd ac i wrando ar farn trigolion am sut orau y gallwn ddiogelu cartrefi a busnesau yn y pentref rhag llifogydd,” meddai’r Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith ar y Cyngor.

“Byddwn yn annog cynifer â phosibl o drigolion sy’n byw yn Llangennech i ddod i’r digwyddiad i roi eu barn.”