Leanne Wood sy’n ystyried beth yw bod yn Gymro neu Gymraes, beth yw Cymreictod, beth yw’r traddodiadau Cymreig a sut ydyn ni’r Cymry’n mynegi ein hunaniaeth…
Dwi wedi treulio llawer o amser dros y blynyddoedd yn meddwl am hunaniaeth Gymreig. Beth mae’n ei olygu i fod yn Gymro neu Gymraes? Beth yw Cymreictod? Beth yw’r traddodiadau Cymreig? Sut ydyn ni’r Cymry’n mynegi ein hunaniaeth? Beth sy’n gyffredin o ran ein profiadau diwylliannol a hanesyddol? Sut mae’r iaith Gymraeg yn rhan o’n hunaniaeth, yn Gymry Cymraeg a’r rhai nad ydyn nhw’n ei siarad hi? Sut mae daearyddiaeth yn effeithio ar hunaniaeth? Sut allwn ni adeiladu hunaniaeth genedlaethol sifil gynhwysol ac adeiladol y gall pawb sy’n byw yng Nghymru fod yn rhan ohoni, os ydyn nhw eisiau?
Does dim atebion hawdd i rai o’r cwestiynau hyn. Mae’r hyn mae’n ei olygu i fod yn Gymro neu Gymraes yn wahanol i bob unigolyn. Mae’n anodd ei ddiffinio.
Mae awduron y llyfr hwn yn rhoi cynnig go dda arni. Ac mae’r hyn maen nhw wedi’i gynhyrchu’n gwneud i rywun feddwl.
Fel mae’r teitl Welsh Plural yn ei awgrymu, mae Cymru’n cynnwys pobol â hunaniaethau niferus ac amlhaenog. Yn ei draethawd, mae Dan Evans yn gofyn i ni feddwl am ein hanes a’n hunaniaeth y tu hwnt i’r “two truths” neu ddwy fersiwn o Gymreictod (yn ôl portread y gyfres deledu ar hanes Cymru yn y 1980, The Dragon Has Two Tongues, efallai? Er, mae Evans yn cadw pellter rhwng Gwyn Alf Williams a’r haneswyr unoliaethol sydd wedi ychwanegu at yr ystrydebau hyn). Cefn gwlad yn erbyn diwydiant. Mae’r ddau wirionedd yma, ar y cyfan, yn eithrio menywod, pobol LHDTC+ a phobol sydd wedi’u diffinio yn ôl hil. Ar y cyfan, dynion â chroen gwyn oedd y bobol oedd yn cynrychioli ein gorffennol yn swyddogol – glöwyr neu weithwyr dur neu gantorion corawl neu ffermwyr neu bysgotwyr.
Mae nifer o draethodau yn y llyfr hwn yn cyffwrdd ag eithrio o Gymreictod neu gymunedau Cymreig. Mae Hanan Issa yn rhoi esiampl, Sahar al-Faifi y cafodd ei Chymreictod a’i gallu i fod yn gynrychioladol yng Nghymru eu cwestiynu a’u dychanu ar y cyfryngau cymdeithasol pan ymddangosodd hi mewn darllediad gwleidyddol gan Blaid Cymru. Mae Darren Chetty yn edrych ar yr hanes y tu ôl i arwydd tafarn y ‘Black Boy’ yn Abertawe. Mae Charlotte Williams yn archwilio beth olygir gan y term ‘cynefin’. Ac mae Rabab Ghazoul yn gofyn sut allwn ni wella o drawma’r gorffennol gyda’n gilydd.
“When the yearning in Wales to dismantle white supremacy was as strong as the yearning to free ourselves from English supremacy; when we championed multiple liberation struggles as our own and drove all emancipatory aspirations into one – when we did this, we’d be moving in the direction of something, we might be getting somewhere. We’d be small, yes, but formed perfectly as some kind of force to be reckoned with.”
Gwych! Dw i wedi credu erioed yng ngrym un mudiad rhydd, unedig.
Ac yn ei alwad ar i Gymru fod yn “deeply ordinary country“, dw i’n cytuno â fy hen ffrind Mike Parker pan rybuddia yn erbyn adeiladu hunaniaeth ar sail gwleidyddiaeth achwyniadau a neilltuaeth Gymreig (fel adwaith i neilltuaeth Brydeinig). Byddai hynny’n rhy hawdd a diog, ond hefyd yn beryglus o bosib. Mae Mike yn dadlau dros Gymru ddatganoledig fach ond hardd, a’i Senedd yn llywodraethu’r holl wlad yn gyfartal ac fel arwydd o hyn, iddi gael ei lleoli ym Machynlleth, yn unol â gweledigaeth Jan Morris.
“Given the resurgence of a Churchillian British nationalism in Westminster and the rise of anti-devolution parties in Wales, it is now even more urgent to create a new, accessible identity to supplement the increasingly fragile structure of feeling which has somehow outlived the way of life which created it.”
Mae dadl Dan Evans dros “constitutional patriotism to protect Wales from being acculturated into this new aggressive Britishness” yn un gref. I beth ydyn ni’n aros?