Arweinydd annibyniaeth alltud sy’n gyfrifol am y grŵp protest Tsunami Democràtic, yn ôl yr heddlu.

Maen nhw’n dweud bod ymchwiliad gan y Llys Cenedlaethol yn awgrymu mai Marta Rovira a swyddogion eraill plaid Esquerra sydd y tu ôl i’r mudiad, yn ôl El Confidencial.

Yn ôl yr adroddiad, cafodd y protestiadau eu cynllunio ymlaen llaw er mwyn pwyso ar Sbaen, a’r rheiny’n cynnwys blocâd ar briffordd AP-7 ger Ffrainc ac ymgais i gau maes awyr Barcelona.

Fe fu Marta Rovira yn alltud yn y Swistir ers mis Mawrth 2018, ac mae wedi’i chyhuddo o anufudd-dod, trosedd nad oes modd ei charcharu yn ei sgil.

Pe bai hi’n dychwelyd i’r wlad, fyddai hi ddim yn cael ei harestio pe bai hi’n fodlon mynd gerbron barnwr o’i gwirfodd, fel yn achos gweinidog arall, Mertixell Serret yn 2021.