Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am wyntoedd cryfion ledled Cymru yr wythnos hon.

Maen nhw’n rhybuddio y gallen nhw godi i gyflymdra o 60m.y.a.

Daw’r rhybudd i rym am 3 o’r gloch heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 11), ac fe fydd yn ei le tan 3 o’r gloch bore fory (dydd Mercher, Ebrill 12).

Mae disgwyl gwyntoedd o 50m.y.a. ar y cyfan, a 60m.y.a. ar yr arfordir.

Gallai’r tywydd gael effaith ar y ffyrdd, rheilffyrdd a’r môr, yn ogystal â chyflenwadau trydan.