Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ategu’r alwad ar i Humza Yousaf, Prif Weinidog newydd yr Alban, benodi gweinidog i ofalu am ieithoedd lleiafrifol y wlad.
Daw hyn ar ôl iddo olynu Nicola Sturgeon, oedd wedi ymddiswyddo’n ddiweddar wrth i’w gŵr Peter Murrell, cyn-Brif Weithredwr yr SNP, wynebu ymchwiliad gan yr heddlu.
Yn ôl y mudiadau Oor Vyce a Misneachd, mae angen penodi gweinidog penodol er mwyn mynd i’r afael â “phryderon” ynghylch cynnal a datblygu treftadaeth ieithyddol yr Alban, ac maen nhw wedi sefydlu deiseb yn galw am benodi gweinidog pwrpasol.
“Gan fod tîm Llywodraeth newydd bellach yn ei le, dydyn ni ddim yn gweld unrhyw atebolrwydd clir dros Sgots na Gaeleg, a dydy’r diffyg eglurder hwn ddim yn rhoi hyder i’n cymunedau y bydd pryderon ynghylch cynnal a datblygu ein treftadaeth ieithyddol unigryw yn yr Alban yn cael eu hateb yn ddigonol,” meddai’r mudiadau mewn datganiad.