Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Llafur o “ragrith” tros rewi treth y cyngor.

Wrth lansio’u hymgyrch ar gyfer etholiadau lleol fis nesaf, dywedodd Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur yn San Steffan, y byddai’r blaid yn rhewi treth y cyngor am flwyddyn pe baen nhw’n dod i rym.

Mae treth y cyngor wedi codi ar gyfer miliynau o aelwydydd yn Lloegr ers Ebrill 1, gyda rhai cynghorau’n cyflwyno cynnydd o hyd at 5%.

Yn ôl Llafur, byddai modd rhewi’r dreth drwy ddefnyddio arian o dreth ffawdelw ar gyfer cwmnïau ynni.

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae Llafur yn gwthio am y cynllun yn Lloegr, er nad ydyn nhw wedi gwneud yr un fath yng Nghymru.

“Fel arfer, byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r galwadau hyn ond pan ddaeth y cyfle, pleidleisiodd Llywodraeth Lafur Cymru yn erbyn ein cynigion i gadw treth y cyngor yn isel,” meddai Sam Rowlands, llefarydd llywodraeth leol y Ceidwadwyr Cymreig.

“Daeth dau o’r codiadau mwyaf yn nhreth y cyngor yng Nghymru o gynghorau Casnewydd a Chaerffili, sydd dan reolaeth Llafur, gan roi bron i 8% yn ychwanegol ar filiau eleni.

“Efallai bod Llafur yn dweud rhywbeth yn genedlaethol, ond yng Nghymru ac yn lleol maen nhw’n gwneud y gwrthwyneb yn llwyr.

“Y rhagrith yma yw’r rheswm pam nad oes modd ymddiried yn Llafur i gyflwyno trethi is.

“Pan fo arian wrth gefn cynghorau bron â bod yn £2.5bn, dylid defnyddio’r rhain i gadw biliau i lawr.”

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, mae treth y cyngor wedi codi bron i 200% ers dechrau datganoli, gan ychwanegu £900 at filiau aelwydydd ar gyfartaledd, tra bod cyflogau wedi codi 78%.

Ymateb

“Dydyn ni ddim yn cyflwyno terfynau nac yn gofyn am refferenda lleol costus,” meddai Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, wrth siarad yn y Senedd.

“Mae’r hyblygrwydd i osod eu cyllidebau a phenderfynu ar lefelau treth y cyngor er mwyn ymateb i flaenoriaethau lleol yn nodwedd pwysig iawn o ddemocratiaeth leol.”

Yn ôl llefarydd ar ran y Llywodraeth, “ers datganoli rydym wedi parchu cyfrifoldebau awdurdodau lleol a dydyn ni ddim wedi defnyddio pwerau i osod cap ar dreth y cyngor”.

“Rydym hefyd yn cydnabod bod nifer o resymau dros gynnal cronfeydd cyllidebol, gan gynnwys darparu’r hyblygrwydd ariannol angenrheidiol er mwyn ymateb i faterion sy’n codi ar fyr rybudd,” meddai.