Mae gwleidyddiaeth am gael ei chadw allan o’r digwyddiad Pride cyntaf yng Nghaerffili, gan na fydd hawl cael stondin wleidyddol yn y dathliad yr haf yma.
Mae Plaid Cymru wedi cael gwybod na fyddan nhw’n cael stondin yn Pride Caerffili ar Fehefin 24, fel rhan o benderfyniad sydd wedi cael ei feirniadu gan y Cynghorydd Lindsay Whittle, arweinydd y grŵp.
Dywed Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili fod ganddyn nhw “bolisi hirhoedlog” o beidio â rhoi’r hawl i bleidiau gwleidyddol gael stondinau neu arddangosfeydd yn nigwyddiadau’r Cyngor.
Gofyn am ailystyried
Mae Lindsay Whittle, sy’n cynrychioli ward Penyrheol, wedi gofyn i’r Cyngor ailystyried y polisi ac i adolygu’r penderfyniad i “wahardd” y stondinau.
Disgrifiodd y digwyddiad fel “syniad hyfryd”, gan ychwanegu ei fod “wedi siomi’n fawr ynghylch y penderfyniad nad yw wir yn ymddangos fel un cynhwysol”.
“Ni fyddai galluogi pleidiau gwleidyddol i gael stondinau’n golygu bod y Cyngor rywsut yn torri niwtraliaeth, dw i’n meddwl,” meddai.
“Gan fod hwn yn ddigwyddiad sy’n cael ei arwain gan y Cyngor, mae’n bwysig fod y Cyngor yn aros yn niwtral ac felly dw i wedi cynghori’r arweinydd fod sefyllfa’r polisi’n aros yr un fath,” meddai Christina Harrhy, Prif Weithredwr y Cyngor, wrth ymateb i lythyr Lindsay Whittle.
“Os ydych chi’n dymuno i sefyllfa’r polisi newid, byddai angen i hyn fod trwy benderfyniad y Cabinet.”
Yn ôl Jamie Pritchard, dirprwy arweinydd y Cyngor, mae Pride Caerffili yn ddigwyddiad sy’n cael ei redeg gan y Cyngor ac yn un nad yw’n wleidyddol.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at Pride Caerffili,” meddai.
“Mae’r digwyddiad wedi’i groesawu’n eang, gyda nifer o bobol yn gweithio’n galed dros nifer o fisoedd er mwyn sicrhau bod y diwrnod yn mynd yn dda i bawb sy’n mynd.
“Dw i’n croesawu cefnogaeth y Cynghorydd Whittle i’r digwyddiad, ac yn edrych ymlaen at weld nifer o bobol yng Nghaerffili ar y diwrnod.”
Beth yw Pride Caerffili?
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y Cyngor y bydden nhw’n cynnal eu digwyddiad Pride cyntaf erioed.
Bydd yn ddathliad diwrnod o hyd i gydnabod cyfraniad pobol LHDTC+ i’r gymdeithas.
Bydd y dathliadau i’r teulu’n digwydd ar Fehefin 24, o 12yp tan 7yh, ac yn cynnwys adloniant byw a pharêd Pride “eiconig”.
Mae disgwyl i’r parêd adael Ysgol St Martin am 12yh, cyn mynd i lawr drwy ganol y dref ac o amgylch maes parcio Twyn, lle bydd yn dod i ben.
“Rydyn ni wedi bod yn cyfarfod ers rhai misoedd i ystyried cynllunio’r digwyddiad Pride Caerffili cyntaf erioed,” meddai’r Cynghorydd Jamie Pritchard.
“Rydyn ni’n hyderus y bydd yn ddiwrnod anhygoel o gerddoriaeth ac adloniant byw, ac yn ddathliad wrth i ni ddod ynghyd i gefnogi ein cymuned LHDTC+ ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.
“Rydyn ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymrwymo i sicrhau bod Bwrdeistref Sirol Caerffili’n parhau’n lle cynhwysol i fyw, gweithio ac i ymweld ag e i bawb, ac mae’r digwyddiad hwn yn un ffordd y gallwn ni wrando ar leisiau ein cymuned LHDTC+.”