Mae mudiadau sy’n ymgyrchu i gynnal Gaeleg yr Alban yn pwyso ar Humza Yousaf, Prif Weinidog newydd yr Alban, i benodi gweinidog i ofalu am yr iaith.
Daw hyn ar ôl i olynydd Nicola Sturgeon ac arweinydd newydd yr SNP gyhoeddi ei Gabinet yr wythnos hon.
Ond does neb erbyn hyn yn gofalu’n benodol am yr iaith, ac mae Oor Vyce a Misneachd yn awyddus i sicrhau “atebolrwydd” am Aeleg yr Alban a’r iaith Sgots yn Llywodraeth yr Alban.
Maen nhw’n dweud nad yw’r “diffyg eglurder yn rhoi hyder i’n cymunedau y bydd pryderon am gynnal a datblygu ein treftadaeth ieithyddol unigryw yn yr Alban yn cael eu hateb yn ddigonol”.
Er eu bod nhw’n cydnabod y “geiriau cynnes” gan yr ymgeiswyr yn y ras arweinyddol, maen nhw bellach yn galw am “weithredu ar hawliau lleiafrifoedd ieithyddol yr Alban… er mwyn osgoi dirywiad pellach”.
Bil ac adroddiad ymgynghoriad
Mae disgwyl i adroddiad ymgynghoriad Llywodraeth yr Alban ar gefnogaeth i’r ieithoedd brodorol, a Bil Ieithoedd yr Alban, gael eu cyhoeddi dros y misoedd i ddod.
Yn ôl y mudiadau, mae’n “hanfodol” fod yr adroddiad yn tynnu ar brofiadau cymunedau lleiafrifol “i roi mwy o lais i Sgots a Gaeleg yr Alban o fewn y Llywodraeth”.
“Mae angen arnom Weinidog Ieithoedd yr Alban fydd yn gallu cynnig atebolrwydd a chydweithio â’r gymuned ehangach yn yr Alban i helpu i ddatblygu hawliau i gymunedau ieithoedd lleiafrifol yr Alban,” medden nhw mewn datganiad.
“Mae Oor Vyce a Misneachd wedi ymroi i hyrwyddo a gwarchod y defnydd o Sgots a Gaeleg yr Alban, a chredwn fod penodi Gweinidog Ieithoedd yr Alban yn gam hanfodol wrth sicrhau bod ein treftadaeth ieithyddol yn cael ei chadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Rydym yn annog Humza Yousaf a Llywodraeth yr Alban i gymryd camau ar unwaith i benodi Gweinidog Ieithoedd yr Alban i fynd i’r afael â’r materion brys sy’n wynebu treftadaeth ieithyddol yr Alban.”