Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod cau ffatri 2 Sisters yn Llangefni yn “dorcalonnus”, a bod rhaid rhoi cefnogaeth i’r rhai sydd wedi colli eu swyddi.
Mae 700 o swyddi wedi cael eu colli yn sgil cau’r ffatri prosesu ieir ar Ynys Môn, a honno wedi bod yn rhan bwysig o economi’r ynys ers hanner canrif.
O Ebrill 1, maen nhw’n amcangyfrif mai hyd at 25 yn unig o’r 730 aelod o staff presennol fydd yn parhau mewn gwaith ar y safle.
Cyhoeddodd y cwmni ym mis Ionawr nad oedd eu ffatri prosesu cig yn Llangefni yn gynaladwy bellach, a’u bod nhw’n bwriadu cau.
Yn ogystal â beio heriau’r sector cynhyrchu bwyd, dywed y cwmni fod modd iddyn nhw greu eu cynnyrch yn “fwy effeithlon mewn rhan arall” o’u hystâd.
“Mae cau safle 2 Sisters Llangefni, gan arwain at golli 700 o swyddi, yn newyddion torcalonnus i bobol Ynys Môn a gogledd Cymru,” meddai Andrew RT Davies.
“Gyda’r ffatri prosesu ieir yn cyfrannu’n helaeth iawn at economi Ynys Môn dros y 50 mlynedd diwethaf, mae’n hanfodol bwysig fod y rhai sydd wedi cael eu heffeithio’n derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw ac maen nhw’n ei haeddu.”
‘Cyfleoedd newydd’
Dywed Andrew RT Davies y bydd Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn, yn “gweithio’n ddiflino” â Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Chyngor Môn “i sicrhau ein bod ni’n gweld cyfleoedd newydd yn dod i Ynys Môn”.
“Mae angen hefyd i ni weld cefnogaeth yn dod gan Lywodraeth Cymru,” meddai.
“Serch hynny, rydym eisoes wedi gweld gwaith gwych ar y gweill gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Virginia Crosbie AS, gyda’r newyddion gwych am borthladd rhydd yn cael ei gyhoeddi ar Ynys Môn, fydd yn dod â swyddi a buddsoddiad mawr eu hangen i Ynys Môn a gogledd Cymru.”