Fe fydd tasglu sy’n gobeithio achub ffatri 2 Sisters ar Ynys Môn yn cyfarfod am y tro cyntaf heddiw (dydd Gwener, Chwefror 3).
Daw hyn yn sgil y newyddion bod cannoedd o swyddi yn y fantol mewn ffatri sy’n prosesu cig ar yr ynys, ar ôl i gwmni 2 Sisters, sy’n cyflogi 730 o bobol yn Llangefni, gyhoeddi eu bwriad i gau’r safle.
Fis yn ôl, fe rybuddiodd Prif Weithredwr 2 Sisters fod y cwmni yn wynebu “bygythiad i’w fodolaeth” yn sgil costau anferth oedd yn taro’r busnes.
Yn ogystal â beio heriau’r sector cynhyrchu bwyd, dywed y cwmni fod modd iddyn nhw greu eu cynnych yn “fwy effeithlon mewn rhan arall o’n hystâd”.
Serch hynny, mae’r cwmni wedi addo cynnal trafodaethau cyn gwneud penderfyniad terfynol ar ffawd y gweithwyr – rhywbeth mae Llinos Medi, arweinydd Cyngor Môn, yn gobeithio y bydd modd manteisio arno i achub y swydd.
Dyw aelodau’r tasglu ddim wedi’u henwi, ond mae lle i gredu bod cynrychiolaeth o’r cyngor sir, Llywodraeth Cymru, Busnes Cymru, cynrychiolwyr undebau llafur ac Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Fel y gŵyr yr Aelodau, yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd cwmni 2-Sisters Poultry Limited, y byddai’n dechrau ymgynghori â’r staff ynglŷn â chau ei ffatri yn Llangefni. Golyga hyn, y byddai rhyw 730 o swyddi yn cael eu colli ar Ynys Môn,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru, a Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru, sydd hefyd â chyfrifoldeb am y gogledd.
“Mewn ymateb, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n mynd ati ar unwaith i sefydlu tasglu er mwyn cynnig ein cefnogaeth lawn i’r gweithwyr sy’n cael eu heffeithio , ac i’r gymuned ehangach.
“Heddiw, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y tasglu hwnnw. Mae’n cynnwys uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru, a chynrychiolwyr ar ran: Cyngor Ynys Môn; Llywodraeth y Deyrnas Unedig; yr Adran Gwaith a Phensiynau; 2 Sisters Poultry Ltd ac Undeb Unite.
“Hefyd yn bresennol, yr oedd partneriaid eraill a allai gynghori a llywio camau gweithredu mewn ymateb i effeithiau economaidd a chymdeithasol ehangach y cyhoeddiad.
“Gwnaeth y tasglu ailddatgan ei gefnogaeth lawn i’r gweithwyr ac i’r cymunedau ym Môn a Gogledd Cymru ar ôl y newyddion trychinebus.
“Ymrwymodd yr holl aelodau i weithio’n gyflym, a bydd rhagor o gyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd dros yr wythnosau nesaf.
“Cytunwyd mai’r amcan pennaf oll, yw ymchwilio i ffyrdd newydd o sicrhau dyfodol y ffatri a’r swyddi yn Llangefni.
“Ochr yn ochr â hynny, gwnaeth y partneriaid adduned i gydweithio i ddeall goblygiadau rhanbarthol ac ehangach y cyhoeddiad ac i gynnig pob cymorth posibl i’r gweithlu.”
“Rhaid i ni fod yn onest”
Er bod Llinos Medi yn byw mewn gobaith y bydd y swyddi’n cael eu hachub, mae’n dweud bod yn rhaid “bod yn onest” am y sefyllfa.
“Dw i’n hollol glir mai fy nod i ydi cadw’r lle yn agored,” meddai wrth golwg.
“Dyna ydi fy nod a dyna ydi fy nisgwyliad.
“Ond eto mae’n rhaid i ni fod yn onest, dydy’r ffordd mae [y cwmni] wedi gweithredu, y cyhoeddiad cyflym yma, ddim yn awgrymu eu bod nhw eisiau cadw’r ffatri’n agored.
“Maen nhw’n gwybod mai’r hyn dw i eisiau ydi cadw’r ffatri’n agored, ac eisiau iddyn nhw nodi beth ydi eu disgwyliadau nhw, beth fyddai’n golygu eu bod nhw’n gallu diogelu’r swyddi yma a chael y drafodaeth hirdymor wedyn o ran ehangu.
“Fan yna dw i’n dod ohoni, ond dw i ddim yn meddwl bod [perchnogion] y ffatri’n dod iddi o’r un cyfeiriad.”
‘Poeni tu hwnt’
Ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru heddiw (dydd Gwener, Chwefror 3) galwodd cynghorydd sir ward Cefni, lle mae safle 2 Sisters, ar lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i gynnig cefnogaeth.
“Mae pobol yn poeni tu hwnt,” meddai Nicola Roberts.
“Mae’r sefyllfa’n erchyll, a be’ sydd waeth yw nad yw pobol yn gwybod be’ i’w wneud.
“Mae angen rhoi rhyw fath o becyn ariannol a chymorth i mewn er mwyn cadw’n hogiau ni mewn gwaith.
“Hyd yn oed os fysa modd cadw rhai o’r swyddi, neu ryw phased-out approach, mae rhywbeth yn gorfod cael ei drio ond y ffordd gynta’ yw trio cadw’r swyddi i gyd a gweld sut fedrwn ni symud ymlaen.
“Dw i’n gobeithio bydd y llywodraethau yn gweld hyn, achos mae’r costau o wneud cymaint o bobol yn ddi-waith yn mynd i gostio mwy i’r llywodraeth yn y diwedd.
“Maen nhw wedi medru camu fewn efo cwmnïoedd yn flaenorol – pam ddim gwneud yn fa’ma yn Llangefni pan ydan ni wir eu hangen nhw?”