Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar gynigion i’w gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr tai sicrhau bod pob tŷ newydd sy’n cael ei adeiladu yn gallu derbyn cysylltiad band eang gigadid.

Y bwriad yw sicrhau bod cysylltiadau’n gyson ac yn addas ar gyfer y dyfodol wrth adeiladu cartrefi newydd.

Bydd yr ymgynghoriad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Chwefror 3) yn cau ar Ebrill 28, a chaiff yr ymatebion eu cyhoeddi ar ôl hynny.

Bydd y ddeddfwriaeth yn mynd gerbron y Senedd yn ddiweddarach.

Y gofynion

Bydd y cynigion sydd wedi’u nodi yn yr ymgynghoriad hwn yn diwygio rheoliadau adeiladu i’w gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr sicrhau:

  • bod y seilwaith ffisegol all ymdrin â chyflymder gigadid – sydd ei angen ar gyfer cysylltiadau a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid – yn cael ei osod ym mhob cartref newydd;
  • bod cysylltiad all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid yn cael ei osod mewn cartrefi newydd, hyd at uchafswm cost o £2,000 fesul annedd;
  • neu fod y cysylltiad band eang cyflymaf nesaf yn cael ei osod pan nad yw cysylltiad all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid yn cael ei osod, a hynny heb ragori ar yr uchafswm cost o £2,000.

Mae’r gofynion arfaethedig newydd wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’r arferion datblygu tai presennol.

Bydd hyn yn sicrhau bod pob datblygwr yn cymryd y camau angenrheidiol i osod seilwaith all ymdrin â chyflymder gigadid, a chysylltiadau all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid mewn cartrefi newydd wrth leihau’r baich ar yr un pryd.

Bydd y rheoliadau newydd yn ei gwneud yn ofynnol i osod y seilwaith sydd ei angen i gynnal o leiaf un cysylltiad all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid ym mhob annedd (gan gynnwys ym mhob annedd unigol mewn aneddiadau amlfeddiannaeth).

Mae hyn yn cynnwys seilwaith o fewn adeiladau, a’r tu allan iddyn nhw, sydd wedi’u lleoli unrhyw le ar y safle megis ar y llwybr troed, y dreif neu’r ardal gyffredin sy’n arwain at yr adeilad.

Cyfleustod ‘hanfodol’

“Mae cysylltiad band eang cyflym a dibynadwy yn gyfleustod hanfodol,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.

“Mae’n hwyluso mynediad at gyfleoedd dysgu gydol oes a gwasanaethau cyhoeddus, yn mynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol, yn galluogi pobol i weithio gartref ac yn dod â phobol ynghyd i fynd i’r afael â materion lleol a byd-eang.

“Yn ddiamau, yn sgil y pandemig, mae llawer mwy o sylw’n cael ei roi i’r galw am gysylltiadau da sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

“Bydd y cynigion rydyn ni’n ymgynghori arnyn nhw yn ein helpu i symud ymhellach ac yn gyflymach tuag at sicrhau bod ein cartrefi’n addas ar gyfer y dyfodol.

“Rwy’n annog unigolion, busnesau, elusennau a phawb arall i ymateb i’r ymgynghoriad ac i ddweud eich dweud!”

‘Hanfodol’

“Mae cysylltiadau band eang eisoes yn safonol mewn llawer o ddatblygiadau, ond maen nhw’n hanfodol gan fod cynifer o bobol yn gweithio gartref,” meddai Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Cymru.

“Drwy ei gwneud yn ofynnol i bob datblygwr tai gynnwys cyfarpar a all drosglwyddo data ar gyfradd gigadid pan fyddan nhw’n adeiladu tai newydd, bydd y cynigion hyn yn helpu i sicrhau y gallwch gymryd yn ganiataol y byddwch chi’n gallu cysylltu â’r rhyngrwyd, dim ots ble rydych chi’n byw.

“Rwy’n annog pawb â buddiant yn y mater hwn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad fel y gallwn ni bwyso a mesur safbwyntiau’r cyhoedd ar y cynigion pwysig hyn.”