Mae Gweinyddiaeth Iechyd Seland Newydd yn ceisio barn y Māori wrth ddatblygu strategaeth iechyd newydd, tra bod ymdrechion ar y gweill i adfywio hen draddodiadau diwylliannol y Māori.

Mae’r strategaeth iechyd yn un o chwe strategaeth sydd i’w ffurfioli cyn y flwyddyn ariannol nesaf ar ôl cyflwyno Deddf Dyfodol Iachus, yn ôl adroddiadau’r wasg.

Mae’r gwaith yn datblygu ar fframwaith gafodd ei greu ugain mlynedd yn ôl, yn ogystal â Chynllun Gweithredu Iechyd y Māori 2020.

Yn ôl y Weinyddiaeth Iechyd, cafodd y fframwaith a’r cynllun gweithredu eu cyflwyno cyn deddfwriaeth newydd, ac mae’n bwysig gwirio eu bod nhw’n dal yn berthnasol fel bod y strategaeth yn cyd-fynd â pholisïau eraill ym meysydd iechyd, anableddau, iechyd menywod ac iechyd yng nghefn gwlad.

Diwylliant

Yn y cyfamser, mae canolfan ddiwylliannol yn Rotorua yn ceisio adfywio hen draddodiadau’r Māori.

Un o gadarnleoedd y diwylliant yw Rotorua, lle mae 16.5% o’r trigolion yn bobol frodorol, yn ôl Cyfrifiad 2018.

Mae Canolfan Ddiwylliannol Te Puia yn arddangos diwylliant y Māori ers dros 130 o flynyddoedd, ac yn gartref i ysgolion gwehyddu a cherfio traddodiadol.

Fe fu ymdrechion ar hyd y blynyddoedd i ddileu ieithoedd brodorol Seland Newydd, sy’n golygu bod iaith y Māori bron â chael ei dileu’n llwyr.

Roedd y genhedlaeth hŷn yn arfer cael eu curo am siarad yr iaith, ac mae’r agweddau hynny wedi cael eu trosglwyddo i blant heddiw wrth iddyn nhw ddysgu Te Reo Māori.

Ond yn ôl arbenigwyr, mae trafod yr hyn oedd yn arfer digwydd flynyddoedd yn ôl yn ddull o geisio mynd i’r afael â’r sefyllfa heddiw.

Fe fu adfywiad araf ers Cwpan Rygbi’r Byd yn 1999, pan benderfynodd Hinewehi Mohi ganu anthem Seland Newydd yn iaith y Māori.

Adroddiad yn tynnu sylw at ddiffyg polisïau i warchod y Māori

Mae rhai arwyddion addawol fod mwy o gyfleoedd iddyn nhw yn y gymdeithas erbyn hyn, ond ychydig o gefnogaeth sydd ar lefel wleidyddol o hyd

Pryderon am y Maori wrth i gyfyngiadau Covid-19 Seland Newydd gael eu llacio

Mae cyfraddau’r haint yn uwch ymhlith pobol frodorol na thrwch poblogaeth y wlad