Mae Dŵr Cymru wedi cael ei feirniadu ar ôl cyhoeddi cynnydd o £14 ym miliau dŵr eu cwsmeriaid.

Golyga’r cynnydd bod biliau ar gyfartaledd am fod yn £500 namyn punt am y flwyddyn.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi dweud ei bod yn sarhaus bod Dŵr Cymru yn parhau i farchnata ei hunan fel cwmni ‘di-elw’ pan mae’n parhau i dalu bonws mawr i swyddogion gweithredol ac yn methu â mynd i’r afael â’r argyfwng gollwng carthion, tra’n codi mwy ar gwsmeriaid.

Talodd Dŵr Cymru dri bonws gweithredol gwerth £931,000 rhwng 2020-2021.

Yn ystod yr un cyfnod, fe wnaeth Dŵr Cymru ollwng carthion amrwd i afonydd Cymru 100,000 o weithiau.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi gwaharddiad ar fonws penaethiaid cwmni dŵr nes bod yr argyfwng gwaredu carthion yn cael ei sortio.

“Gwarthus”

“Mae’n warthus bod Dŵr Cymru yn cynyddu biliau cwsmeriaid tra’n parhau i dalu bonysus gweithredol mawr, i gyd tra’n honni bod yn ‘ddi-elw’,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

“Yn y cyfamser mae cwmnïau dŵr yn parhau i ollwng carthion amrwd i’n hafonydd, llynnoedd a moroedd, gyda Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig yn methu â gweithredu.

“Mae afonydd fel Afon Gwy a’r Afon Teifi mewn cyflwr enbyd, ni all hyn barhau.

“Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn parhau i alw am wahardd taliadau bonws cwmni dŵr ac i ailgyfeirio arian i wella isadeiledd.”