Gwelais ddarn o newyddion mor od yr wythnos hon nes y bu’n rhaid i mi ei ddarllen ddwywaith.
Mae Wcráin yn gobeithio cael ymuno â’r Undeb Ewropeaidd, ac un dyn sy’n cefnogi Kyiv yw cyn-Brif Weinidog Prydain, Boris Johnson – rhyfedd ynte?
“Rwy’n credu, unwaith y bydd y rhyfel hwn ar ben, ar ôl i’r Wcrainiaid ennill, yna ie, dylen nhw ddechrau’r broses o ymuno â Nato a’r Undeb Ewropeaidd,” meddai’r dyn sydd wedi treulio’r wythnosau diwethaf ar ymgyrch PR ddigon truenus – sydd wedi cynnwys ymweldiad ag Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelenskyy, er mai Aelod Seneddol mainc gefn ydyw bellach – menter odiach fyth.
Felly mae’r dyn wnaeth arwain yr ymgyrch tros adael yr Undeb Ewropeaidd ym Mhrydain, a hynny drwy dactegau o gamarwain ac ar adegau dweud celwydd pur, yn annog gwlad arall i ymuno â’r Undeb Ewropeaidd?!
Nawr, dw i’n cydnabod bod sefyllfa Wcráin a Phrydain yn dra gwahanol, ond mewn difrif, dair blynedd yn dilyn ein hymadawiad o’r Undeb Ewropeaidd, all rywun wir ddadlau bod Brexit wedi bod yn ddim byd llai na methiant ysgubol?
Gadewch i mi roi hi ffordd yma i’r sawl bleidleisiodd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd. Pe bai Prydain yn ail-ymuno â’r bloc yfory, pa un o fanteision Brexit fyddech chi’n ei fethu fwyaf?
Mae’n debyg bod y cyhoedd wedi cael llond bol gyda’r holl ffiasgo hefyd, oherwydd yn ôl yr arbenigwr pleidleisio John Curtice, ar gyfartaledd mae arolygon barn bellach yn awgrymu y byddai 57% o bobol gwledydd Prydain yn pleidleisio i ailymuno â’r Undeb Ewropeaidd.
Anffawd Ynys Môn
Un ardal sydd fel petai hi’n mynd o un argyfwng i’r llall yn ddiweddar ydi Ynys Môn, ac mae creithiau Brexit yn glir i’w gweld.
Nawr, dw i ddim am fynd mor bell â beio Brexit am y ffaith fod Pont y Borth wedi gorfod cau.
Ond does dim amheuaeth bod y gostyngiad sylweddol sydd wedi bod yn nhraffig porthladd Caergybi dros y tair blynedd diwethaf yn symptom uniongyrchol o Brexit wrth i gwmnïau megis Stena Line a Brittany Ferries ddewis cludo nwyddau’n uniongyrchol rhwng Iwerddon ag Ewrop yn hytrach na drwy Gaergybi a’r Deyrnas Unedig.
Yda chi ddim wedi’ch argyhoeddi? Wel, dyma oedd gan Brittanny Ferries i’w ddweud wrth lansio croesfan wythnosol rhwng Cherbourg a Rosslare ddeufis yn gynnar yn sgil pwysau Brexit.
“Yn draddodiadol, mae cludwyr Gwyddelig a Ffrangeg wedi dibynnu ar y Deyrnas Unedig wrth gludo nwyddau i gyfandir Ewrop ac oddi yno.
“Fodd bynnag, mae mwy o gwmnïau wedi chwilio am ddewis arall yn lle’r biwrocratiaeth ychwanegol, ffurflenni newydd, mwy o gostau ac oedi posibl sy’n deillio o gario nwyddau drwy’r Deyrnas Unedig.”
Cafwyd sioc aruthrol ar yr ynys yr wythnos diwethaf pan gyhoeddodd cwmni 2 Sisters ei fwriad i gau ei ffatri yn Llangefni.
Ynghyd â beio heriau’r sector cynhyrchu bwyd, yn anochel, cafodd effeithiau Brexit ar y cwmni hefyd eu crybwyll.
Mae yna straeon fel hyn i’w clywed ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.
Onid y peth callaf i’w wneud nawr, yr hyn fyddai’n dangos gwir arweinyddiaeth ein gwleidyddion, fyddai llyncu ein balchder ac ail ymuno â’r Undeb Ewropeaidd?
Wedi’r cyfan, mae Boris Johnson o’r farn bod yr Undeb Ewropeaidd yn grêt.