Ar drothwy penwythnos cyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae Alun Wyn Jones, cyn-gapten timau rygbi Cymru a’r Llewod, wedi lansio gwirod newydd.
Mae’r brand newydd, Mimosa Rwm Espiritu, wedi’i ysbrydoli gan fordaith y Cymry i Batagonia yn 1865.
Y Mimosa oedd y llong gyntaf i deithio i Batagonia o Gymru, wrth i’r Cymry geisio bywyd gwell a newydd yn yr Ariannin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Hwyliodd y Mimosa o Lerpwl ym 1865 gyda 153 o deithwyr oedd â’u bryd ar greu cymunedau Cymraeg, ac mae’r rheiny wedi para ac yn ffynnu hyd heddiw.
Y rỳm
Mae’r rym, sydd ag ABV o 29%, wedi ei greu a’i gynhyrchu gan Ddistyllfa Caerdydd.
Rỳm wedi’i drwytho â choffi o Dde America yw Mimosa Rwm Espiritu.
Mae’r cymysgedd o rym Caribïaidd a choffi yn cyfuno i gynhyrchu gwirod llyfn a blasus.
Ymhlith haenau’r Mimosa mae blas banana a ffrwythau trofannol, wedi’u hategu gan nodau siocled chwerwfelys o’r coffi, sy’n creu aperitif blasus – diod hyfryd ar ôl pryd o fwyd ac ychwanegiad perffaith i unrhyw espresso martini.
Mae Mimosa Rwm Espiritu ar gael o Ddistyllfa Caerdydd am £28.00 y botel.
Mae’r gwirod wedi’i enwi ar ôl y Mimosa, a’r logo yn cario delwedd o’r llong.
Diwylliant, hunaniaeth a chariad at Gymru
Enillodd Alun Wyn Jones ei gap rhyngwladol cyntaf yn erbyn yr Ariannin yn 2006 yn y gêm brawf gyntaf erioed i’r Ariannin ei chwarae ym Mhatagonia.
Mae’r chwaraewr ail reng wedi cynrychioli ei wlad 155 o weithiau erbyn hyn, ac mae wedi’i enwi yng ngharfan Warren Gatland ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, a hynny am yr ail dro ar bymtheg.
“Mae hwn yn brosiect personol sy’n agos iawn at fy nghalon,” meddai.
“Mae’n brosiect sy’n dathlu ein diwylliant, ein hunaniaeth a fy nghariad tuag at ein cartref a’n gwlad.
“Dechreuodd fy ngyrfa ryngwladol yn yr Ariannin, ac mae gen i barch mawr at y bobol wnaeth y penderfyniad dewr i ddechrau bywyd newydd filoedd o filltiroedd i ffwrdd o’u cartrefi.
“Er gwaetha’r pellter a’r hiraeth, roedd Cymru’n dal yn rhan annatod o’u bywydau.
“Fe wnaethon nhw lwyddo i wireddu eu breuddwydion, creu a chynnal cymunedau cyfrwng Cymraeg yn yr Ariannin, ac mae’n destun balchder bod y Gymraeg yn dal i’w chlywed ym Mhatagonia heddiw.”