Fe fydd y cefnwr Leigh Halfpenny yn methu gêm agoriadol tîm rygbi Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Chwefror 4), oherwydd problem gyda’i gefn.

Roedd disgwyl iddo ennill cap rhif 98 ei yrfa, ond dywed yr is-hyfforddwr Jonathan Humphreys ei fod wedi dioddef sbasm yn ei gefn ac y bydd yn methu’r gêm.

Bydd Liam Williams, cefnwr Caerdydd, yn cymryd ei le ar ôl bod allan o ymgyrch gyfan Cymru yng Nghyfres y Cenhedloedd yn yr hydref oherwydd anaf.

Dydy e ddim wedi dechrau gêm dros ei wlad ers y daith i Dde Affrica haf diwethaf.

‘Teimlo drosto’

“Yn anffodus, cafodd Leigh sbasm cefn y bore ’ma, a bydd Liam yn chwarae,” meddai Jonathan Humphreys.

“Dw i’n meddwl ei fod e’n fwy siomedig iddo fe fel person. Mae’n berson proffesiynol.

“Rydych chi’n teimlo drosto fe bod yn rhaid iddo fe dynnu ’nôl mor hwyr â hyn.

“Mae Liam yn barod am y gêm.”