Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau bod eu golwr Steven Benda allan am weddill y tymor.
Daw hyn wrth i’r Almaenwr orfod cael llawdriniaeth ar ei ben-glin yn dilyn anaf yn y gêm yn erbyn QPR yr wythnos ddiwethaf.
Mae’n gadael y clwb â dim ond Andy Fisher yn y brif garfan ar ôl i’r clwb fethu â denu unrhyw chwaraewyr newydd yn ystod y ffenest drosglwyddo, sy’n golygu ei bod hi’n debygol y bydd golwr o’r tîm dan 21 yn cael ei ddyrchafu yn absenoldeb Benda.
Serch hynny, maen nhw hefyd wedi cadarnhau y bydd Archie Matthews allan am gyfnod sylweddol yn sgil yr un anaf â Benda yn ystod cyfnod ar fenthyg yn Rhydychen.
Yn y cyfamser, mae’r perchennog Jason Levien a’r cyfarwyddwr Jake Silverstein wedi egluro pam fod y clwb wedi methu â denu chwaraewyr newydd fis diwethaf, gan ymddiheuro am y sefyllfa.
Dywedodd Levien fod yna “rwystredigaeth” ynghylch y ffaith eu bod nhw wedi methu denu chwaraewyr newydd, gydag adroddiadau bod y Cymro Sorba Thomas yn eu plith, yn ogystal â Hannes Wolf, cyn-asgellwr yr Elyrch.