Gallai golwr fu ar fenthyg gyda Chlwb Pêl-droed Aberystwyth yn hanner cynta’r tymor hwn gael cyfle euraid i Abertawe yn ail hanner y tymor, yn dilyn anaf i Steven Benda, dewis cynta’r Elyrch.

Y disgwyl yw y bydd yr Almaenwr allan am weddill y tymor ar ôl anafu ei goes yn y gêm gyfartal 1-1 yn erbyn QPR dros y penwythnos.

Mae anaf Benda yn golygu mai Andy Fisher sy’n debygol o gymryd ei le yn y tîm am weddill y tymor, sy’n golygu y gallai Lewis Webb hawlio’i le ar y fainc.

Dim ond y tri golwr hyn sydd gan Abertawe yn eu prif garfan ar hyn o bryd, ac felly mae’n bosib y gallai’r Cymro gael cyfle i chwarae yn y Bencampwriaeth, yn enwedig o ystyried y polisi sydd gan y rheolwr Russell Martin o gylchdroi’r chwaraewyr pan fo angen.

Y tebygolrwydd, felly, os nad yw’r Elyrch yn ceisio denu golwr arall ar fenthyg neu brynu golwr newydd yn ystod y ffenest drosglwyddo, yw mai Webb fydd y golwr rhif dau rhwng nawr a diwedd y tymor.