Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi cyhoeddi trefn gemau timau dynion a menywod y Tân Cymreig ar gyfer y gystadleuaeth Can Pelen yn 2023, wrth i bedwar diwrnod o gemau cefn wrth gefn gael eu cynnal yng Nghaerdydd, ac maen nhw hefyd wedi cyhoeddi ymddangosiad y band Adwaith yn y twrnament.
Bydd gemau cartref tîm dinesig Caerdydd yn cael eu cynnal yng Ngerddi Sophia yn y brifddinas, gyda’r gyntaf ohonyn nhw nos Fercher, Awst 2 yn erbyn y Manchester Originals.
Bydd rownd gyn-derfynol y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, Awst 26 ar yr Oval yn Llundain, a’r rownd derfynol yn Lord’s yn Llundain ar Awst 27,
Bydd partneriaeth y Can Pelen â BBC Music Introducing yn parhau, sy’n golygu y bydd Adwaith ymhlith yr adloniant, fydd yn gyfuniad o fandiau byw a DJs.
Bydd y flaenoriaeth ar gyfer prynu tocynnau’n mynd i bobol oedd wedi prynu tocynnau y tymor diwethaf, a bydd modd i bobol eraill archebu tocynnau ymlaen llaw trwy flaenoriaeth rhwng Ebrill 5-18, ac yna’r cyhoedd o Ebrill 20.
Bydd yr holl docynnau’n costio’r un faint â 2022 – £5 i blant chwech i bymtheg oed, a £10+ i oedolion.
Bydd y ‘Drafft’ ar gyfer y gystadleuaeth, lle mae’r timau’n prynu chwaraewyr yn eu tro, yn cael ei gynnal ar Fawrth 2, gyda’r dynion a’r merched yn cymryd rhan ochr yn ochr â’i gilydd am y tro cyntaf.
Bydd y timau’n cyhoeddi pa chwaraewyr maen nhw eisiau eu cadw o 2022 ar Chwefror 16.
Bydd gemau’n cael eu darlledu ar y BBC a Sky Sports trwy gydol y gystadleuaeth, a bydd modd dilyn y cyfan ar y cyfryngau cymdeithasol.
Y gemau
Awst 2: Tân Cymreig v Manchester Originals, Caerdydd – menywod 11.30yb, dynion 3yp
Awst 4: Southern Brave v Tân Cymreig, Southampton – menywod 3yp, dynion 6.30yh
Awst 6: Oval Invincibles v Tân Cymreig, yr Oval – menywod 2.30yp, dynion 6yh
Awst 10: Birmingham Phoenix v Tân Cymreig, Birmingham – menywod 3yp, dynion 6.30yh
Awst 12: Tân Cymreig v Southern Brave, Caerdydd – menywod 2.30yp, dynion 6yh
Awst 14: Tân Cymreig v Trent Rockets, Caerdydd – menywod 3yp, dynion 6.30yh
Awst 20: Tân Cymreig v London Spirit, Caerdydd – menywod 2.30yp, dynion 6yh
Awst 26: Rownd gyn-derfynol, yr Oval – menywod 2.30yp, dynion 6yh
Awst 27: Rownd derfynol, Lord’s – menywod 2.15yp, dynion 6yh