Gwenno Saunders fydd y gwestai arbennig nesaf i ymuno ag Elin Fflur ar Sgwrs Dan y Lloer nos Lun (Ionawr 23), ac mae hi’n dweud ei bod hi’n sylweddoli nad oes rhaid iddi “gyfaddawdu’n ieithyddol” wrth fynd o gwmpas ei cherddoriaeth.
Mae’r gantores, cyfansoddwraig a DJ wedi cynhyrchu tair record yn ddiweddar, ac wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Mercury.
Yng ngardd do un o’i hoff leoliadau yng Nghaerdydd y bydd hi’n setlo o flaen tanllwyth o dân dan y sêr, i gyfeiliant sŵn trenau’r brifddinas i sgwrsio am ei gyrfa a’i bywyd lliwgar.
‘Cyrraedd rhan o’n henaid dwi methu yn Saesneg’
Fel un sydd wedi cyflawni cymaint yn y Gymraeg a’r Gernyweg, mae Gwenno Saunders yn dweud nad oedd ganddi uchelgeisiau pendant o ran gyrfa pan oedd hi’n ifanc.
Ond mae un peth yn sicr, sef y dylanwad gafodd ei rhieni arni o ran eu hangerdd at iaith a diwylliant.
“Dwi ddim wir wedi cael unrhyw fath o plan o unrhyw beth pendant, [ac] wedi ymateb i’r peth nesa’ yn beth bynnag dwi’n ei wneud ar y pryd.
“Ond hefyd, wedi isio bod yn rhan o’r byd.
“Felly dwi’n meddwl bod lot o bethau wedi cael dylanwad arna i, i wneud fi feddwl bo fi’n gallu bod yn rhan o’r byd o safbwynt diwylliannol yn ddigyfaddawd hefyd.
“Mae yna lot o bethau wedi digwydd ar hyd y ffordd sydd wedi rhoi lot o ffydd i fi feddwl bod yna le i wneud pethau heb orfod cyfaddawdu’n ieithyddol.
“Dwi’n creu records yn Gymraeg ac yng Nghernyweg achos dwi’n cael rhywbeth mawr ma’s o ddefnyddio’r ieithoedd yna.
“Dwi’n cyrraedd rhan o’n henaid dwi methu’i wneud yn Saesneg.”
Trafod popeth – o ddawnsio i fagu teulu
Dawnsio, mae’n debyg, oedd ei chariad cyntaf – bu’n mynychu gwersi dawnsio Gwyddelig yng Nghaerdydd yn ifanc, a llwyddodd i droi hynny’n yrfa lewyrchus, gan symud i Las Vagas i fod yn rhan o dîm Lord of the Dance Michael Flatley, a hithau ond yn 16 oed.
“Oedd y dawnsio wir wedi safio fi,” meddai.
“Do’n i ddim yn cael lot o hwyl arni yn yr ysgol, doedd dim bywyd cartref sefydlog gyda fi.
“Oedd e’n docyn ma’s o chaos.”
Ond daeth tro ar fyd, ac yn y rhaglen mae hi’n cofio’n ôl at ddigwyddiad sbardunodd broblem o ran bwyta ar y pryd, a hithau’n oedran bregus.
“Oedd y choreographer wedi’n cael ni ar y llwyfan un dydd, a phigo ma’s pwy oedd angen colli pwysau.
“Oedd pawb yn 16 neu 17.
“Unwaith oedd un person wedi stopio bwyta, wnaeth pawb stopio bwyta.
“O’n i’n gweld sut oedd problem bwyta’n beth hynod bersonol, achos mae’n ymwneud â chymryd rheolaeth o dy fywyd pan mae lot o chaos ynddo, ond ma rhywbeth reit heintus yn gymdeithasol amdano fe, achos erbyn y diwedd oedd hanner y trŵp o ferched ddim yn bwyta felly wedyn o’n i’n sort of gwybod ’mod i angen cael mas o’r sefyllfa yna achos o’n i’n gwybod bod mwy o werth i ‘mywyd na beth o’n i’n edrych fel.”
Ac o hynny ymlaen, aeth yr yrfa greadigol, amrywiol o nerth i nerth.
Erbyn hyn, mae hi’n fam gydag un bach arall ar y ffordd, a theulu a chreadigrwydd yn gweithio law yn llaw, wrth i Rhys y gŵr gydweithio ar gynhyrchu ei recordiau a chyd-deithio.
“Dydi o ddim yn job ti’n mynd a gwneud a dod gartref o gwbl i fi, achos mae popeth yn bwydo mewn i’w gilydd.
“A dw i’n meddwl bod o’n bwysig i dy blant gweld ti’n gwneud y peth ti’n caru gwneud, achos maen nhw’n gweld ti’n hapus ac wedyn maen nhw’n hyderus.”
- Bydd Sgwrs Dan y Lloer gyda Gwenno Saunders ar S4C nos Lun, Ionawr 23 am 8yh.