Mae golygydd cyfrol newydd arbennig o gerddi’n dweud y dylem ddal ein gafael ar unrhyw gariad sydd gennym, gan fod digon o bethau digalon a thywyll yn y byd.

Mae’r gyfrol newydd Cariad yn gasgliad ac yn ddathliad o gerddi Cymraeg am gariad sydd wedi cael ei golygu gan y gyflwynwraig.

Yn y rhagair mae cerdd ysgrifennodd Mari Lovgreen hithau i’w phlant, Bethan ac Iwan.

Bydd y gyfrol yn cael ei lansio gan Barddas yn y Bar Bach yng Nghaernarfon ar Ddiwrnod Santes Dwynwen, Ionawr 25, am 7.30yh efo Mari Elen, sy’n ymddangos yn y gyfrol, yn holi a Geraint Lovgreen, yn canu.

Ond cyn hynny, bydd lansiad arall heno (nos Wener, Ionawr 20, 7.30yh) yn nhafarn y Cann Office yn Llangadfan, gydag Efa Bleddyn yn canu.

Yr ysfa am gariad

Yn yr hinsawdd sydd ohoni, pam fod angen cyfrol o farddoniaeth am gariad?

Does dim rhaid i’r cariad a deimlwn fod at bartner, yn ôl Mari Lovgreen, ac mae’n gallu bod yn gariad mae unrhyw un yn ei deimlo mewn unrhyw ffordd.

Gyda’r problemau diddiwedd yn y byd, roedd Mari Lovgreen am i’r gyfrol fod yn bositif ac mae’n gobeithio ei bod wedi cael y cydbwysedd cywir rhwng cariad a thorcalon.

“Mae yna gymaint o bethau digalon yn mynd ymlaen yn y byd,” meddai wrth golwg360.

“Rwy’ eisiau pwysleisio nad yw ddim ond yn gariad fel partner.

“Mae yna un cyfrannydd, Gwenllian Ellis, mae hi’n ysgrifennu cerdd arbennig iawn am gariad yn gyffredinol.

“Mae’n gallu bod yn gariad at le, anifail, ffrind neu at aelod o’r teulu, unrhyw gariad rydym yn gallu’i ffeindio yn y byd yna mae’n werth gafael arno’n dynn.

“Mae’r byd yn gallu bod yn lle tywyll ac mae cymaint o distractions yn y byd heddiw, mae pobol yn gallu anghofio beth yw’r pethau mwyaf pwysig.

“Rwy’n teimlo bod pawb yn gallu ffeindio cariad yn rhywle neu yn rhywbeth.

“Roeddwn eisiau i’r gyfrol fod yn un positif oherwydd mae cymaint o bethau negyddol o’n cwmpas ni yn y byd.

“Hwyrach bod rhai pobol yn teimlo bod angen mwy o gerddi am dorcalon, dw i ddim yn siŵr os dw i wedi cael y balans yn iawn.”

‘Harddwch’ cariad

Mae Mari Lovgreen yn hoff o’r gerdd ‘Harddwch’ gan Grahame Davies, sy’n dweud nad yw cariad wastad yn rywbeth arwynebol, ac mae datgeliad i brofi hyn ar y diwedd.

“Rwy’n hoffi pan mae cerddi yn datgelu rhywbeth yn y diwedd ’dan ni heb weld yn dod,” meddai.

“Hefyd mae’n rhoi neges bwysig nad yw cariad fod yn rhywbeth arwynebol, bod o’n rywbeth cymaint dyfnach.

“Roedd y plentyn yma yn caru ei hathrawes gan ddweud mai hi yw’r ddynes ddela’ yn y byd.

“Mae’r bardd yn cael sioc yn y diwedd o weld llun o’r athrawes a’i bod hi’n hen.

“Mae’n dangos bod cariad yn codi uwchlaw pethau arwynebol sydd ddim yn bwysig o gwbl.”

‘Cyffwrdd y darllenydd’

Er bod cymaint o sôn am gariad yn y byd heddiw ac yn y gorffennol, mae’r beirdd yn y gyfrol hon yn llwyddo i osgoi ystrydebau ac yn ysgrifennu yn wreiddiol – rhywbeth sydd at ddant Mari Lovgreen, meddai.

“Rwy’n edmygu’r beirdd yn y gyfrol yma gymaint oherwydd bod cariad sydd wedi cael ei siarad amdan, ysgrifennu amdan ac mae gymaint o ganeuon a ffilms, mae bron wedi cael ei orddefnyddio fel gair.

“Mae’r ffaith fod y beirdd yma’n gallu ysgrifennu am gariad mewn ffordd newydd, wreiddiol sydd dal yn llwyddo i gyffwrdd pobol yn anhygoel rwy’n meddwl.

“Dw i wedi cymryd cerddi sydd gobeithio am gyffwrdd y darllenydd.

“Rwy’n hoffi cerddi sy’n cael impact yn eithaf cyflym.

“Rwy’n hoffi bod ti’n gallu astudio cerddi a ffeindio haenau ychwanegol iddi, ond rwy’n meddwl yn fy marn i, i gerdd fod yn llwyddiannus mae’n gorfod cael rhyw fath o impact ar y darlleniad cyntaf.

“Pan wnaethon nhw sôn fy mod yn cael comisyniu beirdd ifainc, penderfynais fy mod am fynd am ferched ifainc roeddwn yn eu gweld fel ysbrydoliaeth.

“Maen nhw i gyd yn eithaf fearless a dewr yn y ffordd maen nhw’n mynegi eu hunain.

“Roeddwn yn meddwl y bydden nhw’n dod â ffresni i’r gyfrol, ac maen nhw yn bendant wedi.”

Dydy Mari Lovgreen ddim yn siŵr pam gafodd ei dewis i olygu’r gyfrol, meddai.

Dydy hi ddim yn fardd nac yn ystyried ei hun yn rywun fyddai’n cael ei chysylltu â chariad, ond cafodd gymorth gan ei thad, sydd wedi cyhoeddi casgliad o ganeuon, a dewisodd gerddi mae’n eu mwynhau.

“Ar y dechrau roeddwn yn meddwl, mae rhaid i mi ffeindio’r cerddi gorau ar gariad, ond wedyn dwedodd rhywun wrtha i, ’maen nhw wedi gofyn i chdi am ba bynnag rheswm, felly dewis pethau ti’n mwynhau’.

“Wnaeth Dad helpu fi llawer oherwydd doeddwn i ddim yn gwybod lle i ddechrau, mae cymaint o gerddi am gariad yn Gymraeg.

“Roeddwn yn meddwl, ’maee hyn yn gymaint o brosiect’.

“Wnaeth Dad yrru llawer i fi, mae gynno fo lawer o gyfrolau o gerddoriaeth yn y tŷ, roedd hynny’n help mawr.

“Roedd yn hwyl cael darllen barddoniaeth, mynd i chwilio a darllen llwyth o gerddi.”

Traddodiad Cymraeg

Mae Cymreictod yn aml iawn ynghlwm wrth gariad mewn llenyddiaeth Gymraeg, a theimlodd Mari Lovgreen y cysylltiad hwnnw wrth weithio ar y prosiect.

“Dw i wedi cynnwys cerddi am y balchder o fod yn Gymraeg,” meddai.

“Wnes i ddod ar draws llawer o gerddi gwladgarol, a gwnaeth yr holl broses fi’n falch o fod yn Gymraeg, dim dim ond ein hanes ni fel gwlad ond y cyfoeth o feirdd amrywiol, talentog sydd gennym ni a’n diwylliant ni.

“Mae’n fraint cael bod wedi astudio a darllen cymaint o gerddi.

“Byddwn wedi gallu cynnwys llawer, llawer mwy.”