Mae Amy Wadge, y gantores-gyfansoddwraig sy’n byw ym Mhontypridd, wedi disgrifio “dwy o’r wythnosau mwyaf hudolus yn fy mywyd” yng nghwmni’r canwr Jeff Beck, sydd wedi marw’n 78 oed.

Fe ddaeth Jeff Beck i amlygrwydd fel gitarydd gyda’r Yardbirds, gan olynu Eric Clapton, cyn mynd yn ei flaen i ffurfio’r Jeff Beck Group gyda Rod Stewart.

Fe ailddiffiniodd e’r grefft o ganu’r gitar yn y 1960au, yn ôl rhai, gan ddylanwadu ar gerddoriaeth metal trwm, pync a jazz-roc a cherddorion fel Paul McCartney a Jimi Hendrix ymhlith eraill.

Ar ôl dwy flynedd gyda’r Yardbirds, fe gyhoeddodd ei fod e am adael y byd cerddoriaeth, cyn dilyn gyrfa fel canwr unigol a rhyddhau’r sengl Hi Ho Silver Lining, un o’i ganeuon enwocaf gyrhaeddodd y siartiau ar ddau achlysur gwahanol, yn 1967 a 1972.

Fe ddychwelodd i amlygrwydd unwaith eto ddiwedd y 1990au a dechrau’r 2000au ac yn y cyfnod hwn y cafodd Amy Wadge gyfle i’w gefnogi mewn gig yn yr Albert Hall yn Llundain yn 2004, yn dilyn cyhoeddi ei albwm unigol ‘Jeff’.

Yn y cyfnod hwn, roedd wedi bwriadu cydweithio â Brian Wilson o’r Beach Boys, ac fe gydweithiodd yn ddiweddarach â’r actor Johnny Depp, gan ryddhau albwm ar y cyd y llynedd.

‘Roedd e’n anhygoel’

“Nifer o flynyddoedd yn ôl, gofynnodd y dyn hyfryd hwn i fi agor iddo fe, ro’n i’n artist oedd yn stryglo ac roedd yn ddwy o’r wythnosau mwyaf hudolus yn fy mywyd,” meddai Amy Wadge ar ei thudalen Facebook.

“Bob nos, byddai’n dod ac yn dweud ar ôl fy set ei fod yn dyheu yn yr eiliad honno am gael bod yn fi fel nad oedd yn rhaid iddo fe fynd ymlaen gan ei fod e mor nerfus.

“Wedyn bob noson, wel, Jeff Beck oedd e. Roedd e’n anhygoel.

“Dw i mor drist o glywed ei fod e wedi mynd.

“Roedd e’n wirioneddol hyfryd i fi yr holl flynyddoedd yn ôl.

“Ewch i rwygo’r sêr gyda’ch gitâr.”