Bydd trigolion dalgylch Llŷn ac Eifionydd ac yn cael y cyfle i berfformio gyda’r super group gwerin, Pedair, yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
‘Y Curiad – Ddoe, Heddiw, Fory’ yw teitl prosiect y côr ac mae’n dod â’r Tŷ Gwerin i mewn i’r Pafiliwn wrth i’r côr ganu gyda Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James, ynghyd â gwesteion eraill.
Bydd yr ymarferion dan ofal Gwenan Gibbard, Siân Wheway ac eraill, ac yn cyfarfod bob yn ail nos Sul, gan ymweld â Chaernarfon a Phwllheli bob yn ail.
Bydd yr ymarferion yn cychwyn ar nos Sul, 29 Ionawr.
‘Modd i fyw’
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod, Elen Elis: “Rydyn ni’n falch o gyhoeddi manylion côr yr Eisteddfod eleni, ac yn edrych ymlaen at groesawu nifer fawr o gantorion o bob cwr o’r dalgylch i ymuno â ni mewn dau brosiect hynod gyffrous.
“Bydd rhannu llwyfan gyda’r grŵp Pedair, yn sicr o apelio at nifer fawr o bobol, ac rydyn ni’n sicr y bydd y côr, a’r gynulleidfa’n cael modd i fyw wrth i ni ddod â’r Tŷ Gwerin i lwyfan ein Pafiliwn am noson arbennig iawn.”
Dathlu bywyd a chyfraniad Leila Megane
Yn ogystal â chynnig cyfle i gyd-ganu rhai o hoff emynau’r genedl, bydd Côr y Gymanfa hefyd yn dathlu llwyddiannau’r gantores opera fyd enwog, Leila Megane, sy’n rhan bwysig o hanes cerddoriaeth yr Eisteddfod.
Yn wreiddiol o Fethesda, bu’n byw yn ardal Pwllheli am flynyddoedd, a hi oedd y gyntaf i berfformio ‘Unwaith eto ‘Nghymru Annwyl’ ar lwyfan y Brifwyl, sy’n cael ei chanu i groesawu Arweinydd Cymru a’r Byd i lwyfan y Pafiliwn yn y Gymanfa bob blwyddyn.
Bydd yr ymarferion dan arweiniad Pat Jones, Ilid Ann Jones, Iwan Wyn Williams a Siân Wheway.
“Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at ddathlu bywyd a chyfraniad Leila Megane fel rhan o brosiect Côr y Gymanfa.
“Rydyn ni’n falch iawn o’r cysylltiad pwysig rhwng yr Eisteddfod a’r gantores fyd-enwog a bydd dod â hyn yn fyw i gynulleidfa’r Eisteddfod heddiw yn gyfle i genhedlaeth newydd ddysgu am ei chyfraniad arbennig i gerddoriaeth yng Nghymru,” meddai Elen Elis.