Mae cwmni recordiau Ankst wedi cyhoeddi newyddion sydd am fod wrth fodd ffans Datblygu – mi fyddan nhw yn rhyddhau casgliad 60 trac sy’n cynrychioli 40 mlynedd o fiwsig y band ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni.

Mae Terfysgiaith 1982-2022 yn gasgliad o gerddoriaeth a recordiwyd gan David R Edwards a Pat Morgan, sef aelodau craidd Datblygu.

Mae popeth yno o recordiadau ystafell wely cyntaf David yn Aberteifi ym 1982 hyd at y traciau terfynol a recordiwyd gan Pat a David gyda’i gilydd mewn ystafell fyw foel mewn llety gwarchod a redir gan y cyngor yng Nghaerfyrddin yn 2021.

Fe gafodd y casgliad ei greu allan o restrau o hoff draciau Datblygu a ddewiswyd gan David a Pat, fel rhan o baratoadau y ddau ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu pen-blwydd y band yn 40 oed yn 2022.

Yn anffodus, ni ddigwyddodd hyn yn ôl y cynllun gwreiddiol.

Ym mis Mehefin 2021 bu farw David R Edwards, prif leisydd a chyfansoddwr caneuon Datblygu, ffigwr hynod annwyl ac uchel ei barch yng Nghymru.

Terfysgiaith 1982-2022

Caiff y band yn aml eu gweld fel un o’r grwpiau roc Cymraeg mwyaf dylanwadol yn y deugain mlynedd diwethaf – yn ysbrydoliaeth glir ar genhedlaeth Cool Cymru, yn ffefrynnau ar Sioe Radio John Peel, ac yn gadarn fel enaid barddonol a cherddorol diwylliant roc tanddaearol Cymraeg ar ddiwedd yr 20fed ganrif.

Mae Terfysgiaith 1982-2022 yn cynnwys 60 o draciau dros dair disg, gyda 20 yn draciau ecsgliwsif.

Mae casgliad o oreuon Datblygu ar ddau ddisg.

Y drydedd ddisg yw Santes Dwynwen o’r Elsey, albwm o draciau prin, byw, demo a sesiwn.

Cyn rhyddhau’r casgliad bydd y sengl ‘Am/Hawdd Fel Bore Llun’ yn cael ei rhyddhau ar ddiwrnod Santes Dwynwen (Ionawr 25) fel tamaid i aros pryd.

Mae’r sengl yn cynnwys un o glasuron oesol y grwp, sef y gân ‘Am’ oddi ar yr albym Pyst a thrac o 1996 sy’n gweld golau dydd am y tro cyntaf,  ‘Hawdd Fel Bore Llun’.

Mae Ankstmusik hefyd wedi creu fideo ar gyfer ‘Am’ sydd yn cyfuno casgliad o ddelweddau a ffotos personol o archif y band.

Bydd y fideo sydd wedi ei golygu gan Alun Edwards, gyda chymorth archif Pat Morgan a Pete Telfer, i’w gweld ar sianel Ankstmusik ar blatfform AM ar Ionawr 25.

‘Anghydffurfwyr anghydffurfiol’

Wrth gyhoeddi eu bod yn rhyddhau Terfysgiaith 1982-2022, dywedodd Ankstmusic:

“Gallwch ollwng y nodwydd unrhyw le dros gatalog Datblygu a bod wyneb yn wyneb â David R.Edwards ar unwaith.

“Ei lais gwrthryfelgar, gonest a thosturiol yn gynddeiriog yn brwydro yn erbyn y drefn.

“Sylweddolwch ar unwaith mai dyma rywun â rhywbeth i’w ddweud, bob amser yn cyfleu gwirionedd, fel y mae Pat wedi’i ddweud o’r blaen ‘cenhadwr.’

“Mae dawn ac arddull David yn un barddonol.

“Geiriau sydd bob amser yn boenus o uniongyrchol, yn hyfryd o farddonol, yn heriol, yn feiddgar, ysgytwol weithiau, yn arloesol yn gerddorol ac yn aml waith yn ddoniol iawn hefyd.

“Dydych chi byth yn amau ​​bod David a Pat bob amser yn bod yn driw iddyn nhw eu hunain – mae hyn yn bwysig iawn. Nid oes byth unrhyw deimlad fod Datblygu yn ceisio plesio eraill, neu ‘going through the motions’.

“Roedden nhw’n mynnu bod y byd ehangach yn talu sylw ac yn gwrando arnynt.

“Y sîn Gymraeg ynysig oedd y byd ehangach hwnnw i ddechrau, ac mae’n amhosib gorbwysleisio’r effaith y mae bodolaeth Datblygu wedi’i chael ar wrthdroi’r diwylliant pop diflas ceidwadol a fodolai pan ffurfiwyd hwy ar ddechrau’r 1980au.

“Mae taith Datblygu wedi bod yn hir ac ar adegau yn un anodd a phoenus ond yn llawn uchafbwyntiau rhyfeddol – albymau clasurol fel Wyau (1988), Pyst (1990) a Libertino (1993), y sesiynau gwych ar gyfer Sioe Radio John Peel ar Radio 1, ymddangosiadau byw a oedd bob amser yn drydanol a bythgofiadwy, ac wrth gwrs dwsinau o ganeuon hynod fel Y Teimlad, Can i Gymry, Cariad Ceredigion, Ugain i Un a Cyn Symud i Ddim.

“Mae’n wych sylweddoli bod band a ffurfiwyd yn yr ysgol yn ôl yn 1982 gyda’r bwriad pendant o weithredu, fel y dywedasant yn glir ar y pryd, fel adwaith i’r gerddoriaeth sy’ wedi bod yn golchi ymenyddiau’r rheini sy’n dewis dilyn y dall hefyd ar restrau byr yr albymau Cymraeg gorau’r flwyddyn ym mhobman yn 2021 ar gyfer y weledigaeth ryfeddol Cwm Gwagle – albwm a recordiwyd ganddynt ar drothwy’r cloi Covid cyntaf.

“Rhwng y ddau bwynt yma maen nhw wedi creu catalog o gerddoriaeth mor gyfoethog a hynod ag unrhyw fand yn unrhyw le erioed.

“Oherwydd natur gwrthsefydliadol ei ganeuon a’r perfformiadau tanllyd ar lwyfan cafodd David ei weld fel rhyw fath o gydwybod foesol i’r genhedlaeth newydd a oedd yn tyfu i fyny yng Nghymru yn yr 1980au a’r 1990au.

“Hefyd gyda’i allu barddonol unigryw yn cael ei gydnabod fe goronwyd yn brif fardd amgen y genedl a eiconoclast mwyaf Cymru. Heb os, mae cerddoriaeth Datblygu yn ysbrydoledig. Mae’r casgliad hwn yn dyst i hyn.

“Maen nhw wedi ysgrifennu caneuon clasurol syml am ddirgelwch cariad, traciau ‘rave’ gwych sy’ mor llawn o ddelweddau barddonol fel y byddai’n gwneud i Rimbaud gochi; wedi recordio gweithiau arbrofol mor ddwfn a llawn ystyr ag unrhyw dudalen allan o Ulysseus Joyce yn ogystal â digon o draciau pop a roc tri munud sydd wedi dymchwel mwy o fuchod cysegredig a chelwyddau’r sefydliad yn well nag ymdrechion unrhyw drydarwr blin a swnllyd hunan pwysig ein hoes ddigidol.

“Maen nhw wedi gwneud ac wedi bod yn gymaint o bethau a hefyd dim ond erioed yn un peth – Datblygu.

“Pan ofynnwyd iddynt hunan-ddiffinio – galwasant eu hunain yn ‘anghydffurfwyr anghydffurfiol’ a ofynnodd i’w cerddoriaeth gael ei chatalogio o dan y categori ‘Non-Hick’. Grŵp chwedlonol sydd angen eu trysori.”